Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 10 Chwefror

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; Cyngor yn ceisio landlordiaid i wella mynediad at gartrefi rhent preifat; a buddsoddi yn Llyfrgell Rhiwbeina.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 10 Chwefror

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  92,306.

 

Grwpiau Blaenoriaeth:

Staff cartrefi gofal: 4,360

Preswylwyr cartrefi gofal: 1,779

80 oed a hŷn: 18,036

Staff gofal iechyd: 22,106

Staff Gofal Cymdeithasol: 7,540

75-79: 11,607

70-74: 12,465

Eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 7,505

Grwpiau eraill o fewn grwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (e.e. 65-69): 6,907

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (30 Ionawr - 05 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

9 Chwefror 2021, 09:00

 

Achosion: 362

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 98.7 (Cymru: 111.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,271

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,164.1

Cyfran bositif: 8.5% (Cymru: 9.3% cyfran bositif)

 

Y Cyngor yn ceisio landlordiaid i wella mynediad at gartrefi rhent preifat

Mae cynllun peilot newydd i sicrhau gwell mynediad at dai fforddiadwy ac o ansawdd da tymor hwy yn y sector rhent preifat ar y gweill yng Nghaerdydd.

Mae'r Cyngor yn awyddus i weithio gyda landlordiaid preswyl yn y ddinas sydd ag eiddo ar gael i'w prydlesu i'r awdurdod am gyfnod o bum mlynedd, er mwyn cynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael i denantiaid.

Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei reoli gan y Cyngor, gan gynnig ystod sylweddol o wasanaethau cymorth a manteision i landlordiaid a thenantiaid preifat, gan gynnwys:

 

  • Cymorth ariannol i wella eiddo;
  • Incwm rhent gwarantedig hyd yn oed os yw'r eiddo'n wag;
  • Cyfrifoldeb am waith atgyweirio a chynnal a chadw drwy gydol cyfnod y brydles;
  • Swyddogaethau rheoli tenantiaeth a chymorth tai parhaus i'r preswylydd.

Mae cymorth ariannol ar gael i landlordiaid sydd â diddordeb yn y cynllun, ond mae angen adnewyddu eu heiddo i fodloni safonau prydlesu Llywodraeth Cymru.  Mae grant nad yw'n ad-daladwy o hyd at £2,000, ynghyd â benthyciad di-log o hyd at £8,000 i'w ad-dalu dros bedair blynedd ar gael i wneud gwelliannau angenrheidiol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25806.html

 

Buddsoddi yn Llyfrgell Rhiwbeina

Mae cynlluniau i fuddsoddi yn Llyfrgell Rhiwbeina er mwyn ddarparu gwasanaethau ychwanegol a gwell i'r gymuned wedi'u dadlennu.

Mae'r Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu ar gynigion i adnewyddu adeilad y llyfrgell a chreu'r cyfleuster diweddaraf yn rhwydwaith hybiau cymunedol y ddinas. Y nod fydd darparu mwy o wasanaethau Cyngor a sefydliadau partner yno, yn seiliedig ar y thema lles.

Gyda chyllid gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru ar gyfer y datblygiad, mae'r Cyngor yn cynnig creu cyfleusterau newydd a gwell yn y dderbynfa, mannau cyfarfod ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau a chynnal gweithgareddau cymunedol, silffoedd llyfrgell ac ardaloedd eistedd newydd a gwell cyfleusterau TG a Wi-Fi. Byddai'r gwaith adnewyddu yn cynnwys ailaddurno'r mannau cyhoeddus y tu mewn i'r adeilad mewn dull sy'n ystyriol o bobl gyda dementia a chreu man awyr agored deniadol ac ymarferol.

Yn y dyfodol bydd gwasanaethau'n cael eu llunio mewn partneriaeth â'r gymuned leol a byddant yn cynnwys cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25812.html