Back
Cartrefi gofal ledled Caerdydd yn cyrraedd carreg filltir frechu

04/02/21 

Mae pob preswylydd ac aelod o staff mewn cartrefi gofal cartrefi gofal i bobl hŷnledled Caerdydd wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn COVID-19. 

Dim ond 23 diwrnod ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ddechrau ei raglen frechu ar gyfer cartrefi gofal, roedd cyfanswm o 3,485 o weithwyr a 1,609 o breswylwyr wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca Rhydychen.

Aeth timau Brechu Symudol y Bwrdd Iechyd i 123 o gartrefi ledled Caerdydd a Bro Morgannwg i roi'r brechlyn ar gyfer y garfan flaenoriaeth hon, yn unol â chanllawiau'r Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Rwy'n falch bod pob un o'n cartrefi gofal i bobl hŷn bellach wedi derbyn y dos cyntaf o'r brechlyn; carreg filltir sy'n rhoi gobaith ac optimistiaeth i rai o ddinasyddion mwyaf agored i niwed Caerdydd. Iddynt hwy, eu teuluoedd, a'r gweithlu ymroddedig sy'n gofalu amdanynt, dyma'r cam cyntaf tuag at adennill rhywfaint o'r normalrwydd roeddem yn ei fwynhau cyn y pandemig.

"Mae sicrhau diogelwch yr holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi bod yn flaenoriaeth drwy gydol COVID-19, ac rydym wedi gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu brechiadau cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl."

Mae sesiynau pellach wedi'u trefnu dros yr wythnosau nesaf ar gyfer nifer fach o breswylwyr neu staff na fu modd eu brechu oherwydd achosion o Covid-19 - ni ellir rhoi'r brechiad tan 28 diwrnod ar ôl canlyniad positif Covid-19.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â'r cartrefi gofal i sicrhau bod y preswylwyr a'r staff yn derbyn eu hail ddos wyth wythnos ar ôl i'w dosau cyntaf gael eu rhoi.

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r ffaith ein bod wedi brechu'r holl staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal mor gyflym ers i ni ddechrau'r rhaglen hon ar 6 Ionawr yn dyst i waith caled a chynllunio manwl ein timau.

"Pan ddechreuon ni frechu'r holl staff a phreswylwyr yn ein cartrefi gofal, sy'n rhan o'r pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, gosodon ni darged i frechu'r holl bobl yma erbyn diwedd mis Ionawr. Rydw i'n falch o ddweud ein bod wedi cyflawni hyn ac am ddiolch i'r holl gartrefi gofal sydd wedi cydweithredu â ni ac wedi parhau i gyfathrebu'n rheolaidd â ni i gadw'r broses mor hyblyg ac effeithlon â phosibl."