Back
Newyddion Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 29 Ionawr

Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: niferoedd achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnod diwethaf (18 Ionawr - 24 Ionawr); cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro Morgannwg; neges frys gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am apwyntiadau brechu COVID-19; a Cartref Cŵn Caerdydd yn taro'r post.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i  www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Ionawr - 24 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

 

Mae'r data'n gywir ar:

28 Ionawr 2021, 09:00

 

Achosion: 618

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 168.4 (Cymru: 177.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,387

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,195.7

Cyfran bositif: 14.1% (Cymru: 13.3% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 21 Ionawr 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o53,278brechiad.

 

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

Staff Cartrefi Gofal: 2,345

Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,545

80 oed ac yn hŷn: 11,772

Staff Gofal Iechyd: 18,288

Staff Gofal Cymdeithasol: 4,622

75-79, 70-74, eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 14,706

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Neges frys gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am apwyntiadau brechu COVID-19

"Rydym yn ymwybodol o rai problemau gyda'r rhif ffôn trefnu apwyntiadau ar gyfer ein Canolfan Brechu Torfol yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar appiau fel ‘Nextdoor' yn dweud wrth bobl os byddant yn ffonio, cânt eu ffitio i mewn.

"Dros y penwythnos, yn anffodus achosodd hyn rai achlysuron pan dderbyniodd pobl apwyntiadau i gael eu brechu o flaen y rhaglen. Aethpwyd i'r afael a hyn bellach ac ni all y cyhoedd drefnu unrhyw apwyntiadau drwy ffonio'r llinell trefnu apwyntiadau.

"Sefydlwyd y llinell trefnu apwyntiadau er mwyn i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen drefnu apwyntiadau ac nawr bod y rhif wedi'i rannu bu'n fwyfwy anodd i'r staff gael apwyntiad oherwydd niferoedd uchel o alwadau. Felly gofynnwn, oni bai eich bod wedi cael eich gwahodd yn ffurfiol i ffonio'r llinell trefnu apwyntiadau, peidiwch â ffonio na rhannu'r rhif.

"Rydym yn gweithio trwy grwpiau blaenoriaeth 1-4 a dyma sut y cysylltir â phobl:

  • Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol - cânt eu gwahodd i ffonio'r llinell trefnu apwyntiadau neu lenwi'r ffurflen ar-lein
  • Pobl 80 oed ac yn hŷn - cânt eu gwahodd gan eu Meddygfa Teulu
  • Y rhai sy'n gaeth i'r tŷ - cysylltir â nhw gan y Bwrdd Iechyd a rhoddir y brechiad iddynt gan y Tîm Brechu Symudol
  • Pobl 75-79 oed - cânt eu gwahodd gan eu Meddygfa Teulu
  • Pobl 70-74 oed - Cânt eu gwahodd gan y Bwrdd Iechyd i fynd i Ganolfan Brechu Torfol
  • Yn Agored i Niwed yn Glinigol a thros 75 oed - cânt eu gwahodd gan eu Meddygfa Teulu
  • Yn Agored i Niwed yn Glinigol a 74 oed ac yn iau - cânt eu gwahodd i ddod i Ganolfan Brechu Torfol

"Rydym yn sylweddoli bod pobl yn bryderus ac am gael eu brechu ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i frechu'r holl grwpiau blaenoriaeth hyn erbyn canol mis Chwefror. Mae'n bwysig nodi bod y grwpiau uchod hefyd yn cael eu brechu ar yr un pryd fel y gallwn frechu cymaint o'n poblogaeth ag y gallwn. Byddwch yn amyneddgar ac arhoswch i ni gysylltu â chi a byddwn yn eich cyrraedd.

"Mae'n bwysig cadw'r llinellau ffôn hyn a llinellau ffôn Meddygfeydd Teulu yn rhydd fel y gall y bobl sydd eu hangen gael mynediad atynt.

"Diolch."

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Cartref Cŵn Caerdydd yn taro'r post

Nid oes neb yn caru cŵn yn fwy na'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd, felly pan glywon nhw fod pobl yn cael eu cynghori mewn rhai grwpiau cyfryngau cymdeithasol, i anwybyddu eu rhwymedigaeth gyfreithiol i gysylltu â nhw os  yn dod o hyd i gŵn strae, am resymau anwir, roeddent am unioni'r camargraff yn syth.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'n siomedig bod lleiafrif o bobl yn dewis lledu gwybodaeth ffug am Gartref Cŵn Caerdydd ar adeg pan, gyda chymorth ymgyrch codi arian dan arweiniad Sam Warburton, cyn-gapten rygbi Gymry a sefydlu elusen newydd y Gwesty Achub, rydym yn awyddus i adnewyddu'r cytiau cŵn a darparu gofal o safon uwch fyth i gŵn Caerdydd.

"Yn anffodus, mewn lleiafrif bach iawn o achosion, does dim dewis ond rhoi ci rydyn ni'n gofalu amdano i gysgu.   Dim ond ar gyngor meddygol milfeddyg y gwneir hyn ar unrhyw adeg, os oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny oherwydd ei fod yn frîd gwaharddedig, neu os yw ci, ar ôl gwaith helaeth gydag therapydd ymddygiad cŵn, yn dal yn rhy ymosodol fel y byddai'n beryglus ei ail-gartrefu.

"I fod yn glir - nid yw cŵn yn cael eu rhoi i gysgu yng Nghartref Cŵn Caerdydd fel mater o drefn.  Mae cŵn yn lletya yn y cartref sydd wedi bod yno ers misoedd lawer a byddant yn aros yno, yn derbyn gofal da tan bo'r tîm yn gallu canfod cartref am byth iddynt."

Yn 2019/20, daeth 695 o gŵn strae drwy ddrysau Cartref Cŵn Caerdydd. Cafodd 359 ohonynt (51.6%) eu dychwelyd i'w perchennog. 329 (47.3%) eu hail gartrefu a dim ond 7 (1%) a gafodd eu rhoi i gysgu, gyda 3 o'r rhain oherwydd cyngor meddygol, a 4 oherwydd problemau ymddygiad.

Os ydych chi'n dod o hyd i gi strae, dyma'r hyn ddylid ei wneud:

 

  • Cysylltwch â Chartref Cŵn Caerdydd ar 029 2071 1243.  Os dewch o hyd i gi sydd allan ar ei ben ei hun, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i gysylltu â'r awdurdod lleol.  Ar gyfer ardal Caerdydd, Cartref Cŵn Caerdydd yw hwnnw. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y broses gywir yn cael ei dilyn a bod y ci yn cael ei ddychwelyd i'w wir berchennog.

 

  • Byddwn yn trefnu i Warden ddod i gasglu'r ci a'i sganio am sglodyn micro er mwyn ei ddychwelyd yn ôl i'w berchennog.  Os nad oes sglodyn i'w gael, bydd y ci yn mynd i Gartref Cŵn Caerdydd lle bydd yn derbyn gofal nes bydd y perchennog yn dod i'w gasglu. Fel arall, gallwch fynd â chi strae yn uniongyrchol i'r Cartref Cŵn ar unrhyw adeg, 24/7 - ffoniwch ymlaen llaw, os ydych yn gwneud hyn.

 

  • Os nad oes unrhyw un yn hawlio'r ci, ar ôl 7 diwrnod bydd yn dod yn eiddo cyfreithiol Cartref Cŵn Caerdydd a bydd y broses o ddod o hyd i gartref newydd am byth i'r ci, yn dechrau.

 

Dyma'r hyn na ddylid ei wneud:

 

  • Ni ddylech gadw'r ci, na rhoi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi cymaint o wybodaeth i bobl fel y gallai unrhyw un honni mai nhw yw perchennog y ci. Mae ein staff wedi'u hyfforddi ac yn brofiadol wrth ddelio â holl gymhlethdodau perchnogaeth ar gŵn ac anghydfodau cysylltiedig. Mae'n bosibl eich bod wedi dod o hyd i gi sydd wedi'i ddwyn ac efallai y bydd gan y Cartref Cŵn wybodaeth am yr hanes a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â chi unigol.

 

  • Peidiwch â chysylltu â Milfeddyg.  Dim ond ymgynghoriadau hanfodol maen nhw'n eu gwneud ar hyn o bryd ac ni allant fynd â chŵn strae i mewn i'w sganio am sglodion micro, chwilio trwy gronfeydd data ac yna cysylltu â pherchnogion i'w hailuno â'u cŵn. Dyma ddiben Cartref Cŵn Caerdydd a'r Gwasanaeth Wardeniaid.

Am fwy o wybodaeth am Gartref Cwn Caerdydd ewch i:  Croeso i Gartref Cŵn Caerdydd - Cartref Cŵn Caerdydd

Os hoffech wneud rhodd i helpu Sam Warburton a'r Gwesty'r Achub i godi arian ar gyfer Cartref Cŵn Caerdydd, ewch i www.justgiving.com/campaign/therescuehotel