Back
Yma i'ch helpu gyda'ch pryderon ariannol


28/1/21
Mae Cyngor Caerdydd yn annog trigolion ar draws y ddinas sy'n cael trafferth ariannol oherwydd y pandemig i gysylltu cyn gynted â phosibl i gael help.

 

Mae tîm Cyngor Ariannol y Cyngor wedi helpu miloedd o gwsmeriaid yn y gorffennol i ddelio â phroblemau ariannol, ac ar adeg pan fo llawer o drigolion yn cael trafferth talu'r biliau oherwydd incwm is neu golli swyddi, mae'r tîm yn awyddus i gefnogi pobl i ddelio â'u problemau ariannol ar unwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r 10 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod hynod o straenus, gan effeithio ar incwm llawer o bobl a'u gadael gyda llai o arian ond gyda biliau a dyledion i'w talu o hyd.

 

"Os yw pryderon ariannol yn eich cadw'n effro yn y nos, os nad ydych yn gwybod sut y gallwch dalu'r rhent neu brynu bwyd, rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â'n tîm, sy'n arbenigo mewn delio â phryderon ariannol. Mae ein cymorth yn rhad ac am ddim ac yn annibynnol, a gall wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch â'i gadael hi'n rhy hwyr."

 

Mae cymorth y tîm Cyngor Ariannol yn cynnwys cyngor ar gyllidebu, cynyddu incwm i'r eithaf, cymorth i hawlio budd-daliadau, grantiau neu ostyngiadau y gallai cwsmeriaid fod â hawl iddynt, cyngor ar ddyledion, cymorth ariannol i achub tenantiaeth, cymorth gyda thlodi tanwydd a llawer mwy.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydyn ni'n gwybod, i lawer o bobl, mai dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw brofi trafferthion ariannol ac efallai y bydd rhai yn amharod i geisio cymorth. Ond gall ein tîm cyfeillgar dawelu eich meddwl a'ch helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn.

 

"Maen nhw'n gweithio gyda chwsmeriaid i ddeall achos eu problemau ariannol ac yn cynnig atebion ymarferol gan gynnwys ystod o gymorth ariannol, yn ogystal ag atgyfeiriadau i wasanaethau cyngor neu bartner eraill fel Cyngor i Mewn i Waith neu'r gwasanaeth Dewisiadau Tai a all helpu'r sefyllfa.

 

"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am y gwasanaeth gwych hwn sydd wedi helpu cymaint o bobl dros y blynyddoedd. Mae'n wasanaeth sydd o bosib yn bwysicach nag erioed yn ystod y cyfnod heriol parhaus hwn felly os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei nabod angen cymorth y tîm, cysylltwch heddiw."

 

Mae gwefan y tîm Cyngor Ariannolwww.cyngorariannolcaerdydd.co.ukyn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am eu gwasanaeth, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael bwyd ar hyn o bryd, cymorth ariannol i bobl ar incwm isel y gofynnwyd iddynt hunanynysu ond nad ydynt yn gallu gweithio gartref, a llawer mwy.

 

Am gefnogaeth, ffoniwch ein Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostiwch hybcynghori@caerdydd.gov.uk