Back
Diweddariad COVID-19: 25 Ionawr

Diweddariad COVID-19: 25 Ionawr

Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: thabl a map sy'n dangos nifer yr achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnod diwethaf (14 Ionawr - 20 Ionawr); a cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro Morgannwg.

 

Aros gartref

Achub bywydau

Diogelu'r GIG

Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

 

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Ionawr - 20 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

 

Mae'r data'n gywir ar:

24 Ionawr 2021, 09:00

 

Achosion: 864

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 235.5 (Cymru: 230.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,950

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,349.1

Cyfran bositif: 17.5% (Cymru: 15.2% cyfran bositif)

 

Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng Nghaerdydd.

Rydym yn defnyddio'r clystyrau hyn oherwydd eu bod yn adlewyrchu orau'r meysydd lle mae pobl fwyaf tebygol o fod yn byw, gweithio a siopa.  Mae hyn yn golygu y gallwch gael y syniad gorau o'r gyfradd bresennol o heintiau COVID-19 newydd yn eich ardal.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 24 Ionawr 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 41,790brechiad.

 

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

Staff Cartrefi Gofal: 2,209

Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,373

80 oed ac yn hŷn: 7,570

Staff Gofal Iechyd: 17,547

Staff Gofal Cymdeithasol: 4,399

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF