Back
Newid i ddiwrnod casglu gwastraff 75% o gartrefi o 22 Chwefror

25/01/21

Bydd gan Gaerdydd strydoedd glanach yn sgil cynlluniau newydd i newid y ffordd y mae gwastraff a deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu casglu yn y ddinas.

Mae llythyrau a thaflenni gwybodaeth yn cael eu hanfon i holl gartrefi'r ddinas o 26 Ionawr, i hysbysu preswylwyr am y newidiadau, a sut y gallent gael eu heffeithio ganddynt.

Yna bydd y rowndiau casglu newydd yn dechrau o ddydd Mawrth, 23 Chwefror gyda'r nod o weld:

  • Gwastraff ac ailgylchu wedi eu casglu o strydoedd erbyn 3.30pm;
  • Cymdogaethau glanach gan y bydd gwastraff ar y stryd am lai o amser yn disgwyl casgliadau;
  • Diwedd y dryswch i breswylwyr pan fo diwrnodau casglu yn cael eu gohirio tan y diwrnod nesaf ar wythnosau Gŵyl y Banc. O dan y system newydd ni fydd diwrnodau casglu yn newid ar Wythnosau Llun Gŵyl y Banc; a
  • Bydd gwastraff ac ailgylchu o fflatiau yn cael eu casglu gan griw pwrpasol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ganddynt fynediad i'r datblygiadau hyn, gan leihau'r enghreifftiau o golli casgliadau.

O dan y drefn newydd bydd y Cyngor yn mabwysiadu model casglu un sifft bedwar diwrnod yr wythnos. Bydd pob casgliad gwastraff yn digwydd rhwng 6am a 3.45pm ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener yn unig. Bydd casgliadau gwastraff yn cael eu cynnal ar ddydd Gwener y Groglith, ond bydd effaith ar wyliau banc nad ydynt ar ddydd Llun. Fodd bynnag, rhoddir gwybodaeth i breswylwyr am y trefniadau hyn yn nes at yr amser.

Er mwyn sicrhau bod y system newydd yn gweithio bydd yn rhaid i newid diwrnod casglu 75% o gartrefi'r ddinas a/neu newid i'r wythnos y maen nhw'n rhoi eu bin olwynion du neu fagiau streipiau coch a'u gwastraff gwyrdd allan i'w casglu. Bydd y dyddiau y cesglir gwastraff hylendid a gwastraff swmpus yn newid hefyd. 

Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Rydyn ni'n hyderus y bydd y newidiadau hyn yn gwella'r gwasanaeth a ddarparwn i'n trigolion. Dim ond pedwar diwrnod yr wythnos y bydd gwastraff ar y strydoedd i'w gasglu yn hytrach na phump a'n nod yw casglu'r cyfan erbyn 3.30pm. Bydd pobl yn dychwelyd adref o'r gwaith i strydoedd glanach heb fagiau na gwastraff allan ar y stryd.  Dylai wneud gwahaniaeth enfawr ledled y ddinas a bydd hefyd yn lleihau'r amser sydd ar gael i anifeiliaid neu wylanod ymosod ar fagiau gwastraff cyffredinol neu ailgylchu sydd â bwyd wedi'i roi ynddynt yn anghywir."

Er mwyn sicrhau y gellir casglu holl wastraff y ddinas dros bedwar diwrnod yn hytrach na phump mae'r cyngor yn cyflwyno 24 o lorïau sbwriel ychwanegol ac 20 o swyddi llawn-amser newydd.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithredu 39 o Gerbydau Casglu Sbwriel (CCG), sy'n cael eu defnyddio ar system dwy sifft, ond bydd y fflyd yn awr yn cynyddu i 68, gan gynnwys cerbydau fflyd wrth gefn, a fydd yn gweithio'r system un sifft newydd o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Er mwyn sicrhau bod trigolion yn cael gwybod am y trefniadau newydd, bydd y cyngor yn ysgrifennu at bob cartref yn y ddinas. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram y cyngor. Bydd manylion ar ein gwefan Caerdydd.gov.uk ac ar app y cyngor, y gellir ei lawrlwytho drwy chwilio am Cardiff Gov ar Apple ac Android, neu drwy ymweld â  www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd 

"Mae'r app yn ffordd wych o gael gwybod pryd mae eich diwrnod casglu a pha wastraff i'w adael allan i'w gasglu. Mae'n hawdd ei lawrlwytho. Mae miloedd o drigolion eisoes wedi gwneud hynny.

"Bydd llythyrau'n dechrau cyrraedd o 26 Ionawr. Bydd holl gartrefi Caerdydd yn derbyn llythyr yn cynnwys gwybodaeth am eu dyddiad casglu penodol eu hunain fel eu bod yn gwybod yn union beth sy'n cael ei gasglu a phryd. Bydd dyddiadau ac wythnosau casglu'n aros yn ddigyfnewid i rai cartrefi. Bydd y mwyafrif yn newid fodd bynnag.

 Felly cofiwch ddarllen y llythyr a ddaw atoch ar ôl 26 Ionawr. Bydd hefyd yn cynnwys cerdyn â gwybodaeth am y newidiadau, y gallwch ei binio ar hysbysfwrdd neu yn y cartref i'ch atgoffa.

"Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei lanlwytho ar wefan y Cyngor -  www.caerdydd.gov.uk/casgliadau  - ac ar ap Cardiff Gova bydd gwybodaeth am eich diwrnod casglu gwastraff newydd ar gael ar-lein a thrwy ein holl sianeli digidol ar ôl eich casgliad gwastraff yr wythnos hon. (25 Ionawr - 29 Ionawr)

"Yn union fel y mae hi nawr, bydd gwastraff bwyd a deunyddiau ailgylchu yn dal i gael eu casglu bob wythnos, bydd gwastraff cyffredinol yn cael ei gasglu bob pythefnos, fel y bydd gwastraff gardd gwyrdd pan fydd casgliadau gardd yn dechrau eto yn y gwanwyn."

Yn rhan o'r system newydd mae rhai wardiau yn y ddinas wedi cael eu rhannu gan y cyngor am resymau gweithredol.

Mae'r Mynydd Bychan wedi'i rannu'n Ddwyrain y Mynydd Bychan a Gorllewin y Mynydd Bychan; mae Pontprennau a Phentref Llaneirwg bellach ar wahân, fel y mae Creigiau a Sain Ffagan.

Bydd y llythyrau at bob cartref yn ei gwneud yn glir pa gynllun casglu yn union y mae eiddo'n rhan ohono. 

O dan y trefniadau newydd, cesglir gwastraff gardd gwyrdd bob pythefnos o ddydd Mawrth, 16 Mawrth.