22/01/21
Mae preswylydd o Gaerdydd wedi'i gael yn euog o oryrru ar Afon Elái a gorchmynnwyd iddo dalu dirwy o £1,200 gan Lys yr Ynadon.
Ffilmiwyd Darren Ryan, o Lecwydd, yn teithio'n gynt na'r terfyn cyflymder uchaf cyfreithiol o 5 not, sydd hefyd yn berthnasol i gychod sy'n defnyddio Afon Taf a harbwr mewnol Bae Caerdydd, ar ddau achlysur gwahanol fis Mehefin diwethaf.
Methodd Mr Ryan, a oedd yn rheoli cwch o'r enw 'Sea Leopard' ar adeg y troseddau, â mynychu'r llys ac fe'i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb o dorri is-ddeddfau 5 a 14 Awdurdod Harbwr Caerdydd.
Dywedodd yr Harbwrfeistr, Andrew Vye-Parminter: "Mae'r terfyn cyflymder yno i gadw pawb ar y dŵr yn ddiogel ac mae teithio'n gynt na'r terfyn cyflymder, hyd yn oed gan ychydig o notiau yn unig, yn creu adlif sylweddol a allai arwain at ddifrod i longau ac offer eraill, neu'n waeth na hynny - at frifo rhywun yn ddifrifol.
"Mae'r Bae, a'r afonydd sy'n bwydo i mewn iddo, hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer chwaraeon padlo. Er mwyn sicrhau diogelwch mordwyo i bob defnyddiwr ac i ddiogelu'r amgylchedd, mae'n hanfodol cadw at derfynau cyflymder.
"Mae'r erlyniad hwn a'r ddirwy sylweddol a roddwyd, yn dangos y bydd Awdurdod yr Harbwr yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n methu â chydymffurfio â'r terfynau cyflymder sydd ar waith fel rhan o'n hymrwymiad i hyrwyddo mordwyo diogel."