20/1/2020
Mae Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, yn rhoi cyfle unigryw ac arloesol i blant a phobl ifanc helpu i siapio dyfodol Caerdydd drwy ddefnyddio llwyfan gêm rithwir.
Mae 'Dyfeisiwch Eich Dinas' yn fenter Caerdydd sy'n Dda i Blant sydd â'r nod o gynnwys pobl ifanc mewn amrywiaeth o ddatblygiadau strategol drwy ddefnyddio Minecraft Education.
Mae'r dull digidol hwn, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Addysg Caerdydd acYsgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Gwybodeg Caerdydd, yn gosod cyfres o heriau yn y byd go iawn ac mae'n ffordd i bobl ifanc rannu eu syniadau ynglŷn â sut yr hoffent i Gaerdydd edrych yn y dyfodol.
Mae'r fenter yn lansio'r wythnos hon gyda chystadleuaeth yn gwahodd plant oedran ysgol i ail-ddylunio llain o dir sydd y tu ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol y ddinas, gyda'r enillydd yn dylanwadu ar bwrpas newydd y tir.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, "Mae dyheadau Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas yn mynd rhagddynt.
"Mae Unicef UK wedi argymell yn ddiweddar y dylai'r Cyngor wneud cais i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant yn hydref 2021, gan gydnabod y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i gynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau.
"Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn ac mae'r cynllun diweddaraf hwn yn ymdrechu i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc gan eu galluogi i fynegi eu syniadau i wella ardal yng nghanol y ddinas drwy lwyfan y maent yn gyfarwydd ag ef.
Dywedodd Dr Catherine Teehan oYsgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Gwybodeg Caerdydd: "Mae Ysgol Cyfrifiadureg Caerdydd wedi bod yn gweithio fel rhan o raglen Technocamps ers y saith mlynedd diwethaf. Mae gennym dîm allgymorth pwrpasol yn yr ysgol sydd wedi ymrwymo i gynnig cymorth ac adnoddau ar gyfer addysg ddigidol ledled De-ddwyrain Cymru.
"Rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan o'r fenter arloesol hon yn ein dinas ac i fod yn defnyddio dysgu sy'n seiliedig ar gêm i ymgysylltu ag ystod eang o blant a phobl ifanc."
Caiff yr ymgeiswyr gynrychiolaeth ddaearyddol gywir o'r safle lle gall pobl ifanc greu eu bydoedd a'u profiadau eu hunain, gan ganolbwyntio ar gadw a hyrwyddo mannau gwyrdd.
Mae Minecraft Education yn gêm fideo aml-lwyfan sy'n gwella creadigrwydd, sgiliau datrys problemau, hunan-gyfeiriad, sgiliau cydweithredu, a sgiliau bywyd eraill sy'n defnyddio blociau adeiladu, adnoddau a ddarganfyddir ar y safle a chreadigrwydd y defnyddwyr eu hunain.
Mae Technocamps yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi galluogi Ysgol Cyfrifiadureg Caerdydd i sefydlu tîm allgymorth sy'n cynnwys dros 120 o fyfyrwyr sy'n Genhadon STEM.
Mae ein tîm Technocamps yn cyflwyno gweithdai am ddim i ysgolion yn ne-ddwyrain Cymru ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus athrawon ar draws y rhanbarth. Mae'r cynllun hefyd yn cynnal digwyddiadau teuluol a chymunedol lle cyflwynir gweithdai digidol i hwyluso prosiectau creadigol digidol ar raddfa fach.
Gellir gweld y pecyn cystadlu yn https://drive.google.com/drive/folders/1ALPttXjCqkCB6Vc88ljUhdHrwqgCM9V-?usp=sharing
Gall ceisiadau fod gan un person
neu gan grŵp sy’n gweithio gyda’i gilydd
Y dyddiad cau yw dydd Gwener 26 Chwefror 2021 am 5pm.
Hysbysir ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer ar 5 Mawrth 2021.