Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Ionawr

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd: achosion a phrofion COVID-19, data saith diwrnod; diweddariad ar statws y brechu;diweddariad ar wastaff gwyrdd a chasgliadau Coed Nadolig;help i denantiaid yn y sector rhent preifat a'r diweddaraf ar ddinasoedd sy'n Dda i Blant.

 

Aros gartref, achub bywydau, diogelu'r GIG.

Arhoswch gartref I achub bywydau a #CadwchGaerdyddYnDdiogel

I gael y diweddaraf am COVID-19 yng Nghymru ewch Iwww.llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (7thIonawr - 14thIonawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

Mae'r data'n gywir ar:

14thIonawr 2021, 09:00

Achosion: 1,276

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 347.8 (Cymru: 371.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,519

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,775.9

Cyfran bositif: 19.6% (Cymru: 18.8% cyfran bositif)

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 15 Ionawr 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 18,532 brechiad.

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

Staff Cartrefi Gofal: 1,761

Preswylwyr Cartrefi Gofal: 359

80 oed ac yn hŷn: 1,113

Staff Gofal Iechyd: 11,983

Staff Gofal Cymdeithasol: 1,888

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd arwefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Diweddariad ar gasgliadau gwastraff gardd a choed Nadolig - Dydd Gwener, 15 lonawr

 

Yn dilyn ein gwaith i gael gwared ar ailgylchu a gwastraff gardd rydym am roi gwybod i breswylwyr bod ôl-groniad o finiau gwastraff gardd a choed Nadolig nad ydym wedi gallu eu clirio o hyd. 

 

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni ymestyn casgliadau gwastraff gardd a choed i ddydd Sadwrn, dydd Llun a dydd Mawrth.

 

Ein bwriad yw casglu yn yr ardaloedd canlynol dros y diwrnodau hyn:

 

  • Dydd Sadwrn, 16 Ionawr- Treganna, Llandaf, Ystum Taf, Felindre, Cyncoed, Pentwyn a Phlasnewydd.
  • Dydd Llun, 18 Ionawr - Pontprennau, Pentref Llaneirwg, Trowbridge a Llanrhymni.
  • Dydd Mawrth, 19 Ionawr - Rhiwbeina, Llanisien a Llys-faen.

 

Mae'r gwasanaeth wedi gweithio'n eithriadol o galed i ddal i fyny lle bo hynny'n bosibl. Mae pob ffrwd wastraff arall yn cael ei chasglu yn ôl yr amserlen. Yn anffodus, oherwydd bod staff yn sâl gyda COVID a bod llawer o wastraff Nadolig eleni, nid ydym wedi gallu clirio'r holl wastraff gardd cyn gynted ag y byddem wedi hoffi. Ymddiheurwn i drigolion am yr anghyfleustra a diolchwn iddynt am eu hamynedd parhaus.

 

Gadewch eich gwastraff gardd heb ei gasglu a choed Nadolig ar y stryd a bydd y timau glanhau yn eu casglu cyn gynted ag y gallant. 

 

Ni fyddwn yn defnyddio camau gorfodi mewn cysylltiad â chyflwyno gwastraff yn ystod y cyfnod hwn pan fo gwastraff mewn rhai ardaloedd eto i'w gasglu. 

 

Diolch am ddarllen.

Cymorth I denantiald yn y sector rhent prelfat

 

Gall Tîm Cyngor Ariannol Caerdydd gynnig ystod eang o gyngor a chymorth i bobl sydd â phryderon ariannol, gan gynnwys tenantiaid sy'n byw mewn cartrefi rhent preifat sydd wedi syrthio ar ei hôl hi gyda'u taliadau rhent.

Mae llawer o rentwyr wedi mynd i ôl-ddyledion am y tro cyntaf yn ystod y pandemig, oherwydd gostyngiad mewn incwm neu golli swydd.

Yn ogystal â chynnig cyngor a gwybodaeth am gyllidebu, cynyddu incwm a dyledion, gall y tîm hefyd helpu mewn ffyrdd ymarferol, fel cysylltu â landlord tenant, cael gafael ar grantiau i helpu tuag at daliadau rhent a chyfeirio at wasanaethau eraill a allai helpu'r sefyllfa, fel y Gwasanaeth i Mewn i Waith.

Mae'r tîm yma i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gyda rhent - cysylltwch â ni nawr. Peidiwch â gadael pethau'n rhy hwyr.

Ffoniwch 029 2087 1071, e-bostiwchhybcynghori@caerdydd.gov.ukneu ewch iwww.cyngorariannolcaerdydd.co.ukam fwy o wybodaeth a chymorth ar faterion ariannol.

Cynnyd Caerdydd tua chael el chydnabod yn fyd eang fel Dinas sy'n Dda I Blant Unicef

 

 

Disgrifir y cynnydd y mae Caerdydd wedi ei wneud wrth weithio tua dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant Unicef a gydnabyddir yn fyd-eang mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod arDydd Iau 21 Ionawr.

Mae'r adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i barhau â'r ymrwymiad i weledigaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd yn y Cyngor a'r tu hwnt ac mae'n cynghori ar y camau nesaf wrth baratoi cydnabyddiaeth posibl fel Dinas sy'n Dda i Blant yn nhymor yr hydref 2021.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Caerdydd ei Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant, sy'n rhoi hawliau a llais plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.

Roedd y cynllun gweithredu aml asiantaeth yn ceisio cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd. Roedd hefyd yn gam mawr tuag at Gaerdydd yn cael ei chydnabod fel un o ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef yn y DU.Mae hon yn rhaglen fyd-eang sy'n dod ag Unicef a llywodraethau lleol ynghyd i roi hawliau plant yn gyntaf ac mae'n cynorthwyo Llywodraethau Lleol a phartneriaid i weithredu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant wrth ddylunio, cyflawni, monitro a gwerthuso gwasanaethau a strategaethau lleol i blant.

Yn ystod y cam gweithredu dwy flynedd, gosododd Caerdydd bum nod a chyfres o ymrwymiadau i'w cyflawni drwy'r Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant:

-         Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei werthfawrogi, ei barchu a'i drin yn deg.

-         Rhoddir sylw i lais, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc.

-         Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei fagu mewn cartref diogel a chefnogol.

-         Caiff pob plentyn a pherson ifanc gyfle i gael addysg o safon uchel sy'n hyrwyddo ei hawliau ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a'i dalentau yn llawn.

-         Mae gan blant a phobl ifanc iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da ac maen nhw'n gwybod sut i gadw'n iach.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25632.html