Back
Newyddion Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 14 Ionawr

Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro; niferoedd achosion a phrofion COVID-19; a datganiad gan Aelod Cabinet ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu.

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG.

Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 14 Ionawr 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o16,709brechiad.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd arwefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (03 Ionawr - 09 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

Mae'r data'n gywir ar:

13 Ionawr 2021, 09:00

Achosion: 1,332

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 363.0 (Cymru: 389.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,608

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,801.0

Cyfran bositif: 20.2% (Cymru: 19.4% cyfran bositif)

 

Datganiad gan Aelod Cabinet ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Diweddariad gan yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael, ar gasglia:

"Roeddwn am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut hwyl y mae ein timau gwastraff yn ei chael wrth waredu unrhyw wastraff Nadolig sy'n weddill o strydoedd y ddinas, ac am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyhoedd eto am eu hamynedd parhaus.

"Mae'n bleser gennyf adrodd bod y casgliadau ailgylchu (bagiau gwyrdd), gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol bellach yn gyfredol. Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio'n galed i ddal i fyny, ond yn sgil colli tua 17% o'n staff i COVID-19, ynghyd â'r symiau mawr o wastraff ychwanegol a adawyd allan dros gyfnod y Nadolig, roedd pwysau sylweddol ar y timau.

"Yn anffodus, rydym tri diwrnod ar ei hôl hi erbyn hyn o ran casgliadau gwastraff gwyrdd, ond gwneir pob ymdrech i gael gwared ar y gwastraff hwn erbyn diwedd y penwythnos.

"Rwy'n gwybod bod rhai trigolion yn gweld coed Nadolig yn cael eu casglu, ond biniau gwyrdd yn cael eu gadael ac yn meddwl pam, tybed? Y rheswm yw bod ein staff glanhau strydoedd wedi cael eu hadleoli i gasglu coed Nadolig ar lorïau gwely gwastad. Rhaid defnyddio Cerbydau Casglu Gwastraff (CCG) i gasglu biniau olwynion gwyrdd.

"O ystyried hyn, rydym am roi tawelwch meddwl i breswylwyr nad oes angen iddynt boeni os yw eu coeden Nadolig wedi'i chasglu, ond bod eu bin olwynion gwyrdd wedi'i adael. Bydd eich bin gwyrdd yn cael ei gasglu gan gerbyd ar wahân, cyn gynted â phosib.

"Er ein bod yn dal i fyny ar rowndiau, mae angen i breswylwyr roi eu coeden Nadolig a'u bin olwynion gwyrdd allan i'w casglu ar y diwrnod sydd wedi'i hysbysebu a byddant yn cael eu casglu cyn gynted â bo modd.

"Os yw eich casgliad wedi'i golli, gadewch y bin olwynion gwyrdd a'ch coeden Nadolig ar ymyl y ffordd nes iddynt gael eu casglu.

"Dylai preswylwyr roi gwybod i'r Cyngor drwy'r dulliau arferol os ydym wedi colli casgliad gwastraff bwyd, ailgylchu (bagiau gwyrdd) neu wastraff cyffredinol.

"Gofynnir i breswylwyr hefyd barhau i roi eu gwastraff nad yw'n wyrdd allan i'w gasglu ar eu diwrnodau casglu arferol. Os byddwn yn clirio'r ôl-groniad o wastraff gwyrdd a choed Nadolig y penwythnos hwn, gobeithiwn ddychwelyd at wasanaeth arferol yr wythnos nesaf.

"Rhoddir diweddariad pellach i breswylwyr drwy'r cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, 18 Ionawr."