Back
Diweddariad gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Strydoedd Glân ac Ailgylchu, y Cynghorydd Michael Michael

Diweddariad gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Strydoedd Glân ac Ailgylchu, y Cynghorydd Michael Michael, ar wastraff gardd, coed Nadolig a chasgliadau bagiau gwyrdd: 

08/01/21

"Yn dilyn ein post diweddar ar gasgliadau Gwastraff ac Ailgylchu, rydym eisiau rhoi diweddariad pellach i drigolion ar wasanaethau.

 

"Mae ein timau'n parhau i weithio'n galed i glirio gwastraff ac ailgylchu trigolion ar ôl y Nadolig, ond mae'r tunellau o wastraff i fyny gan tua 25% o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd ac mae gweithlu ein hadran wedi colli 17% o'i gweithwyr sydd naill ai â COVID neu mae'n rhaid iddynt hunan-ynysu.

 

"Rydym yn drafftio timau o adrannau eraill y cyngor i helpu, ond mae casglu gwastraff yn waith sydd angen sgiliau ac mae'n golygu gweithredu peiriannau trwm a gweithio o gwmpas cerbydau sy'n symud. Mae angen hyfforddi staff ac mae'n rhaid i iechyd a diogelwch fod ym mlaen ein meddyliau.

 

"Mae'r rhan fwyaf o'r gwastraff sy'n cael ei gyflwyno i'w gasglu yn dod o gynnydd o ran bagiau ailgylchu gwyrdd. Mae angen codi bagiau ailgylchu â llaw i mewn i'n cerbydau felly mae criwiau'n cael trafferth cwblhau eu rowndiau arferol mewn pryd gyda nifer fawr y bagiau ychwanegol.

 

"Mae gennym 15 criw yn gweithio yfory (Dydd Sadwrn, 9 Ionawr) i helpu i glirio'r maint terfynol o wastraff o gasgliadau'r wythnos diwethaf.

 

"Ein blaenoriaeth yw cadw'r strydoedd yn glir rhag sbwriel. Yn anffodus mae hyn yn golygu y bu rhaid oedi casgliadau gwastraff gardd er mwyn canolbwyntio ar symud y gwastraff ailgylchu, cyffredinol a bwyd.

 

"Yn ôl yr addewid, bydd casgliadau gwastraff gardd yn digwydd o hyd, er ei fod yn debygol y bydd oedi. Os ydych chi wedi rhoi eich gwastraff gardd allan i'w gasglu, a/neu eich coeden Nadolig go iawn, gadewch ef ar ymyl y ffordd hyd nes y caiff ei glirio.

 

"Diolch am eich cefnogaeth barhaus i'n criwiau sy'n gweithio'n galed ac am eich dealltwriaeth yn y cyfnod digyffelyb hwn.

 

"Byddwn yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf i chi ar ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol."