Back
Diweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd: 22 Rhagfyr
Mae achosion o COVID yng Nghaerdydd yn parhau i gynyddu.  I atal y lledaeniad o’r feirws ac atal y GIG rhag cael ei lethu mae Caerdydd a Chymru dan gyfyngiadau Lefel 4. #CadwchynDdiogel a gwnewch eich gorau i achub bywydau ac #AchubyGIG.

Dysgwch sut mae’r rheolau diweddaraf yn effeithio arnoch chi: https://llyw.cymru/coronafeirws

 

 

Achosion a Phrofion Caerdydd – Data 7 Diwrnod (11 Rhag - 17 Rhag)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

21 Rhagfyr 2020

 

Achosion: 2,549

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 694.7 (Cymru: 634 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth)

Digwyddiadau profi: 11,878

Profi fesul 100,000 o'r boblogaeth 3,237.4

Cyfran bositif: 21.5% (Cymru: cyfran bositif o 22.5%)

 

Prifysgol Caerdydd – Rhifau Achosion COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/coronavirus/covid-19-case-numbers

 

Prifysgol De Cymru – Rhifau Achosion COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/news/coronavirus-overview/