Back
Gwybodaeth am y cyfnod cloi diweddaraf (20/12/20)

 20/12/20

Yn sgil y cyhoeddiad am y Cyfnod Clo a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe (19/12/20), mae'r cyfleusterau canlynol  yn cau  ar unwaith:

 

  • Canolfan Hamdden Trem y Môr
  • Canolfan Rafftio Dŵr Gwyn (DGRhC)
  • Ysgol Farchogaeth Caerdydd
  • Cyrtiau chwaraeon awyr agored
  • Parciau sglefrio a champfeydd awyr agored
  • Mae Meistr yr Harbwr wedi rhoi'r Hysbysiad i Forwyr ar waith sy'n cyfyngu ar fordwyo i mewn ac allan o'r bae
  • Meysydd parcio'r Morglawdd a'r Wenallt

 

Bydd y cyfleusterau canlynol yn  aros ar agor  nes clywir yn wahanol:

 

  • Canolfannau ailgylchu Clos Bessemer a Ffordd Lamby ar gyfer trefniadau a wnaed ymlaen llaw ac apwyntiadau yn unig
  • Marchnad Caerdydd, ar gyfer nwyddau hanfodol yn unig
  • Ardaloedd chwarae i blant a geir mewn parciau
  • Mae'r trefniadau ar gyfer Hybiau, Llyfrgelloedd canolfannau a threfniadau cymunedol ar gael i'w gweld ymahttps://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25505.html