Clirio cyn y Nadolig? Dysgwch beth i’w wneud gyda’ch sbwriel
18.12.2020
Sicrhewch na fyddwch dan ormod o straen gyda'n hawgrymiadau ar gyfer ymholiadau ailgylchu cyffredin cyn y Nadolig:
- Goleuadau Nadolig- Yr un frwydr bob blwyddyn, datglymu'r goleuadau Nadolig o'r blwch addurniadau ac wedyn darganfod nad yw rhai ohonyn nhw'n gweithio. Ond ydych chi'n gwybod beth i'w wneud gyda'r goleuadau Nadolig sydd wedi'u torri?
Peidiwch â'u taflu yn eich gwastraff cyffredinol.
Gallwch hefyd ddod â hen oleuadau Nadolig sydd wedi torri i'n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Bessemer Close. Archebwch cyn ymweld yma.
- Blychau cardbord- Os ydych wedi manteisio'n llawn ar Ddydd Gwener Du neu Ddydd Llun Seiber a'ch cartref yn llawn blychau Amazon Prime, gallwch roi eich cardbord yn eich bagiau gwyrdd. Os ydyn nhw'n rhy fawr i fynd yn y bagiau, rhowch nhw wrth ochr eich bagiau gwyrdd i gael eu casglu. Arhoswch am ddiwrnod sych i wneud hyn a thynnwch unrhyw bolystyren yn gyntaf.
Gallwch hefyd fynd â symiau mawr o gardbord i'r canolfannau ailgylchu. Archebwch eich ymweliad nesaf yma.
- Polystyren -Gellir mynd â'r deunydd pacio o'r tu mewn i'r blychau i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os yw'n fawr iawn ac nad ydych yn gallu ei dorri. Gallwch ddod o hyd i leoliadau, amseroedd agor ac archebu eich ymweliad nesaf yma.
Os ydych yn gallu ei dorri'n ddarnau llai, rhowch ef Y TU MEWN i'ch bagiau streipiau coch neu finiau du. Peidiwch â'i roi y tu allan i'ch bin neu'ch bagiau ar y palmant.
- Hen Addurniadau Nadolig nad oes eu heisiau-Fel arfer bydden ni'n gofyn i chi roi addurniadau diangen y gellir eu hailddefnyddio, ond eleni, cadw hwy nes ei bod yn ddiogel eu rhoi. Os yw'ch addurniadau wedi torri, bydd angen eu rhoi yn eich bin du neu'ch bagiau streipiau coch.
- Clirio'r cartref- Os ydych yn cael gwared ar lawer o hen bethau nad ydych eu heisiau, beth am logi sgip gennym? Caiff eich holl wastraff ei ddidoli ar ôl i ni ei gasglu a byddwn yn gwahanu'r deunyddiau ailgylchu ac yn troi unrhyw wastraff na ellir ei ailgylchu yn ynni mewn cyfleuster lleol yng Nghaerdydd. Gyda ni, gallwch fod yn dawel eich meddwl na aiff eich gwastraff i safle tirlenwi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar ailgylchu a gwastraff, ewch i'ntudalen cyngor defnyddiol dros gyfnod yr ŵyl: www.caerdydd.gov.uk/ailgylchunadolig