Back
Helpu pobl i gadw mewn cysylltiad gartref

 

17/12/20
Mae gwasanaethau cyngor digidol i drigolion ledled y ddinas yn cefnogi lles pobl hŷn ac agored i niwed drwy eu helpu i gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Mae cyfoeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a sesiynau cymdeithasol ar gael ar lwyfannau digidol bob dydd, gan ddod â gwasanaethau i gartrefi pobl, ar adeg pan fo'r gallu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau wyneb yn wyneb yn parhau'n gyfyngedig.

 

Mae gwasanaethau fel Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd, Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, tîm cymorth digidol Dysgu Oedolion a'r gwasanaeth Cynghori wedi gwneud popeth y gallan nhw i gynyddu'n sylweddol y cynnig digidol i gwsmeriaid dros y naw mis diwethaf. Mae timau wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac ymdrech mewn atebion digidol i sicrhau bod rhai o ddinasyddion mwyaf agored i niwed y ddinas yn gallu cael gafael ar wasanaethau i helpu i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol.

 

Mae sesiynau diweddaru digidol, sesiynau ymarfer corff rhithwir, sesiynau cyd-ganu a hyd yn oed ŵyl Nadolig wedi dwyn pobl ynghyd, a'u helpu i greu cysylltiadau a ffrindiau newydd o'u cartrefi.

 

Mae dau ŵr oedrannus wedi dod yn ffrindiau ac wedi magu perthynas gref sydd wedi helpu'r ddau ohonynt yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, diolch i gyflwyniad ar-lein gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor. 

 

Gwnaeth Glyn Willacott, 71, o Dredelerch a Norman Blackmore, 82, o Drelái gwrdd pan gawsant eu hatgyfeirio gan y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol i glwb Caerdydd ar-lein y Gymdeithas Atgofion Chwaraeon, ac mae'r ddau ohonynt wedi ymddangos mewn ffilm fer gan S4C yn ddiweddar, gan ddangos sut mae chwarae a thechnoleg yn helpu i atal allgáu cymdeithasol.

 

Dywedodd Norman: "Dwi'n gallu treulio'r diwrnod cyfan mewn distawrwydd ond dwi wedi canfod bod y cyfarfodydd Zoom yma wedi rhoi ail deulu i mi," a dywedodd Glyn: "Rydych chi'n cael cwrdd â phobl eraill a chael sgwrs."

 

 

Dyma un enghraifft yn unig o sut mae'r Cyngor wedi addasu gwasanaethau i fodloni anghenion pobl gan fod y pandemig wedi effeithio ar fywydau beunyddiol pawb.

 

Mae hybiau a llyfrgelloedd yn cynnal sesiynau cymdeithasol a digwyddiadau iechyd a lles ar-lein pob dydd i gadw cwsmeriaid mewn cysylltiad, mae gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn wedi'i sefydlu gan y tîm Gwirfoddoli i Mewn i Waith a gwneir galwadau lles i ddinasyddion sy'n agored i niwed yn rheolaidd. Mae tîm Digidol Caerdydd y Cyngor hefyd yn cynnal digwyddiadau ar-lein rheolaidd i gefnogi pobl i ddefnyddio atebion digidol i gadw mewn cysylltiad. I gael mwy o fanylion am wasanaethau, gweler isod.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydyn ni i gyd wedi gorfod aros gartref llawer mwy nag o'r blaen, sydd wedi cael effaith andwyol ar lawer o bobl. Hyd yn oed pan fo cyfyngiadau wedi'u llacio, bu'r rheiny, yn enwedig pobl hŷn a'r rhai sy'n agored i niwed, sydd wedi bod yn poeni o hyd am adael eu cartrefi ac yn amlwg, rydyn ni'n pryderu bod unigolion yn mynd yn unig ac yn cael eu hallgáu'n gymdeithasol.

 

"Mae gwasanaethau'r Cyngor wedi camu i'r adwy wrth ymateb i'r sefyllfa hon ac rwyf wedi clywed enghreifftiau gwych o ganlyniadau da'r ymdrechion hyn, fel cyfeillgarwch Glyn a Norman. Mae'n amlwg bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud ym mhob rhan o'r ddinas i leihau allgáu cymdeithasol ac rydyn ni'n gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i gefnogi trigolion i fanteisio ar y cyfoeth o wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau mynediad agored am ddim a ddarparwn i hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol ac i sicrhau nad oes angen bod yn unig wrth aros gartref yn fwy.

 

"Mae digwyddiadau cymdeithasol a chefnogaeth ar-lein wedi bod yn hollbwysig i lawer o bobl ym mhob rhan o'r ddinas drwy gydol y pandemig a byddant yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol yn ystod y cyfnod hwn."

 

Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd

Mae amrywiaeth o adnoddau digidol ar gael ar-lein ac mae'r gwasanaeth yn cynnal digwyddiadau a sesiynau rheolaidd yn fyw ar ei dudalen Facebook.

 

Mae ar y wefan Digwyddiadau Hybiau newydd ynwww.hybiaucaerdydd.co.ukwybodaeth ddigwyddiadau dyddiol a gynhelir gan y gwasanaethau a'r partneriaid.  Mae'r wefan yn hawdd ei gwe-lywio ac yn galluogi ymwelwyr i chwilio am ddigwyddiadau yn ôl dyddiad ac yn ôl eu diddordebau, er enghraifft sesiynau iechyd a lles, digwyddiadau darllen a ffitrwydd.

 

 

Gwefan newydd Caerdydd sy'n Deall Dementia

Mae gwefan Caerdydd sy'n Deall Dementia a lansiwyd yn ddiweddar yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol a chymorth i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.   Mae'r wefan yn cyfeirio at weithgareddau a digwyddiadau dyddiol sy'n deall dementia fel sesiynau hel atgofion ar-lein, sgyrsiau chwaraeon a sesiynau atgofion cerddorol ar Zoom. Ewch iwww.caerdydddealldementia.co.uk/

 

Gwasanaeth Cyfeillio Cyfeillion Mewn Angen

Gydag arian gan Age Cymru, mae tîm Gwirfoddoli i Mewn i Waith y Cyngor yn darparu gwasanaeth cyfeillio lleol i bobl dros 50 oed, er mwyn rhoi gwybodaeth am wasanaethau lleol a chyfeirio pobl at unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnynt, yn ogystal â bod wrth law ar gyfer sgwrs. Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwasanaeth ffonio 029 2087 1071 neu e-bostiogwirfoddoli@caerdydd.gov.uki gael gwybod mwy.

 

Cymorth Digidol

Gyda ffocws cryf ar atebion digidol, mae'r Cyngor hefyd wedi cefnogi pobl ledled y ddinas i ddeall technoleg newydd nad ydynt wedi'i defnyddio o'r blaen o bosibl. Mae'r tîm Caerdydd Ddigidol newydd, sy'n rhan o'r gwasanaeth Dysgu Oedolion, wedi gweithio'n galed ers y cyfnod cloi i gynnig sesiynau hyfforddi a dysgu am ddim o gymorth digidol sylfaenol i drigolion i dechnolegau iechyd a lles mwy penodol.

 

Cynhelir cymorthfeydd digidol dyddiol ar gyfer cleientiaid ac mae gweminarau wythnosol wedi helpu pobl i ddefnyddio app Tracio ac Olrhain y GIG a Google Classrooms.

 

Cyrsiau digidol Dysgu Oedolion

Ar hyn o bryd mae Dysgu Oedolion yn cynnig cwrs drwy Google Classrooms. Mae'r ystafell ddosbarth bob amser wedi bod yn lle i unigolion gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd felly mae'r tîm wedi defnyddio'r meddalwedd galwadau fideo, Google Meet i alluogi grwpiau sy'n bodoli eisoes a llu o fyfyrwyr newydd i gyfathrebu'n hawdd. Mae cyrsiau ar-lein yn cynnwys Magu Hyder Ar-lein, Sgiliau Digidol, Dod i adnabod eich Ffôn Clyfar a'ch Llechen a Chyfrifiadura i Ddechreuwyr.

 

Mae'r Cyngor hefyd wedi helpu i ddileu rhwystrau amddifadedd digidol drwy roi dyfeisiau a chynnig mynediad i'r rhyngrwyd drwy amrywiol gynlluniau rhoddi llechi, felly gall y rheiny sydd ar incwm isel ac sydd heb gysylltiad â'r rhyngrwyd wneud cais am lechen.

Mae mwy o wybodaeth am waith Caerdydd Ddigidol a Dysgu Oedolion ar gael ymawww.dysguioedolioncaerdydd.co.uk

 

Gwasanaethau gwirfoddoli

Mae'r Cyngor yn cynnal gwefan Gwirfoddoli Caerdydd lle gall cleientiaid chwilio am gymorth yn eu hardal leol a'i gael a chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn eu hardal leol.  Edrychwyd ar y wefan fwy na 100,000 o weithiau rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Ewch iwww.gwirfoddolicaerdydd.co.uk

 

Gall y rheiny sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd ffonio'r llinell Gynghori ar 029 2087 1071 a rhoddir manylion iddynt wedyn i gysylltu â grwpiau lleol a all helpu.

 

Llinell Gynghori

Mae Llinell Gynghori'r Cyngor wedi chwarae rhan hollbwysig yn ymateb y ddinas i sicrhau y caiff pobl mewn angen sy'n agored i niwed yr hyn sydd ei angen arnynt yn ystod y pandemig. Mae'r gwasanaeth ar gael chwe diwrnod yr wythnos i helpu pobl ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys cael gafael ar fwyd aceitemau hanfodol, hawlio budd-daliadau ac incwm, cyngor i Mewn i Waith, cyngor ar Gredyd Cynhwysol a help gyda dyledion. Ffoniwch 029 2087 1071, e-bostiwchhybcynghori@caerdydd.gov.ukAm help gydag arian ewch iwww.cyngorariannolcaerdydd.co.uk

 

Galwadau Lles

Drwy gydol y pandemig, mae swyddogion wedi gwneud galwadau lles dyddiol i ddinasyddion sy'n agored i niwed, yn bennaf i'r rheiny sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu nad oes ganddynt fawr o gyswllt ag unrhyw un. Mae'r alwad yn cynnwys sgwrs gyffredinol ond sicrheir hefyd fod meddyginiaeth yn cael ei chymryd, a bod dinasyddion yn bwyta'n dda ac yn teimlo'n ddiogel.

Mae'r tîm Teleofal hefyd yn gwneud galwadau lles rhagweithiol tra bod y gyrwyr Pryd ar Glud cyfeillgar yn cynnal gwiriad lles i bob cleient ac yn cyfeirio at wasanaethau eraill pan fydd angen.