Back
Diweddariad COVID-19: 15 Rhagfyr

15/12/20

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn cynnwys:Canolfannau profi newydd yn cael eu sefydlu oherwydd y cynnydd aruthrol mewn cyfraddau heintio; grantiau newydd ar gael i fusnesau yn y sector hamdden a lletygarwch; data ansawdd aer diweddaraf Caerdydd a'r ysgolion diweddaraf sydd wedi'u heffeithio gan COVID-19.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

 

Canolfannau profi newydd ar agor ynd Nghaerdydd i ddelio â chynnydd enfawr mewn cyfraddau heintio

 

Mae Caerdydd yn agor canolfannau profi COVID-19 newydd yn y ddinas ac yn cynyddu capasiti mewn canolfannau presennol er mwyn creu dwy fil o slotiau profi ychwanegol yr wythnos yn dilyn y cynnydd sydyn mewn heintiau COVID-19 ar draws y ddinas.

 

Mae prifddinas Cymru wedi gweld cyfraddau heintio yn cynyddu 90% dros yr wythnos ddiwethaf i gyrraedd y lefelau uchaf eto yn y ddinas, a gyda'r gyfradd o brofion positif ar 18% mae'n amlwg bod y feirws yn lledaenu drwy'r gymuned gan ei gwneud hi'n anodd iawn ei reoli.

 

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, yn annog preswylwyr i fanteisio ar y canolfannau profi newydd a'r gallu cynyddol i archebu prawf os ydynt yn teimlo'n sâl neu'n arddangos unrhyw un o'r symptomau, gan gynnwys colli blas neu arogl, peswch sych parhaus, blinder, tymheredd uchel neu anhawster anadlu.

 

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25468.html

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithlo ar ysgollen: 15/12/20

 

Ysgol Melin Gruffydd
Mae achos positif o COVID-19 wedi ei gadarnhau yn Ysgol Melin Gruffydd. Mae 29 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Ysgol Uwchradd Llanisien
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae 93 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 11 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
Mae pum achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant. Mae 71 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 a 3 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.  

Ysgol Uwchradd Corpus Christi
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Mae 161 o ddisgyblion Blwyddyn 8 a 5 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.  

Ysgol Uwchradd Caerdydd 
Mae saith achos positif wedi cael eu cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 126 o ddisgyblion o flynyddoedd 8,12 a 13 a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.  

Ysgol Bro Edern
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Bro Edern. Mae 85 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.  

Ysgol Gynradd Herbert Thompson
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson. Mae 141 o ddisgyblion o'r dosbarth Derbyn, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 6 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Ysgol Gynradd y Santes Fair
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd y Santes Fawr. Mae 27 o ddisgyblion Blwyddyn 3 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.  

Ysgol Gyfun Plasmawr
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gyfun Plasmawr. Mae 6 disgybl o Flwyddyn 13 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.  

Ysgol Gynradd Windsor Clive
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ynYsgol Gynradd Windsor Clive. Mae 11 o ddisgyblion Blwyddyn 3  wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt. 

Ysgol Pen y Pîl
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Pen y Pîl. Mae 15 disgybl o Flwyddyn 2 a 3 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at bobl y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.  

Y cymorth ariannol diweddaraf ar gyfer busnesau

 

Caiffbusnesau hamdden a lletygarwchsydd wedi cael eu gorfodi i gau oherwydd cyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac sydd heb wneud cais am grant cychwynnol y cyfnod clo byr, wneud cais am y cymorth ariannol canlynol yn seiliedig ar werth ardrethol eu heiddo:

  • Bydd eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,001 neu lai, yn gymwys i gael taliad o £3,000
  • Mae eiddo rhwng £12,001 a £150,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000.

NID OES ANGEN ifusnesau hamdden a lletygarwcha wnaeth gais ac a gafodd eu derbyn ar gyfer grant cychwynnol y cyfnod clo byr wneud cais, gan y bydd taliad yn cael ei wneud i'r busnesau hyn yn uniongyrchol ar sail manylion eu cais gwreiddiol.

Mae taliad dewisol o £2,000 hefyd ar gael i fusnesau nad ydynt yn atebol i dalu ardrethi busnes i Gyngor Caerdydd sydd wedi'u gorfodi neu y mae'n ofynnol iddynt gau o ganlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd ar waith ar gyfer busnesau lletygarwch, neu sydd wedi gweld trosiant yn gostwng gan o leiaf 40% o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau diweddaraf. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gyrwyr tacsis sydd wedi'u trwyddedu yng Nghaerdydd a all ddangos effaith y cyfyngiadau ar incwm.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25462.html

 

Ansawdd aer yng Nghaerdydd yn gwella

 

Mae'r data ansawdd aer diweddaraf ar gyfer Caerdydd yn awgrymu gwelliant amlwg yn 2019, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol mewn tair o'r pedair Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) yn y ddinas.

Mae'r data, a gafwyd cyn y pandemig, yn awgrymu gwelliant yn ansawdd aer yn y ddinas.

Sefydlir ARhAA pan fydd monitro llygredd aer yn dangos bod lefelau'n agos at neu'n uwch na'r terfynau cyfreithiol. Ar hyn o bryd mae ARhAA ar waith yng Nghanol y Ddinas (sy'n canolbwyntio ar Heol y Porth); Pont Trelái, Stephenson Court (oddi ar Heol Casnewydd), ac yn Llandaf.

Y terfyn cyfreithiol ar gyfer NO2yng Nghymru yw crynodiad cyfartalog blynyddol o 40μg/m3. Mae canlyniadau monitro mewn lleoliadau lle mae preswylwyr yn fwy tebygol o gael eu hamlygu o fewn yr ARhAAau wedi dangos y canlyniadau canlynol ar gyfer 2019:

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25455.html