Back
Cartrefi newydd arloesol


15.12.20
Mae gwaith ar ddatblygiad tai yn y dyfodol, i adeiladu mwy na 200 o gartrefi carbon isel i Gaerdydd wedi dechrau.

 

Mae Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid, Wates Residential, wedi dechrau gwaith adeiladu ar y datblygiad mwyaf yn y cynllun Cartrefi Caerdydd, a fydd yn darparu 214 o eiddo newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain oddi ar Heol Casnewydd.

 

Dyfarnwyd £4.1m o gyllid Rhaglen Tai Arloesol (RhTA) Llywodraeth Cymru i'r datblygiad arloesol a bydd yn mynd â safonau perfformiad ynni i lefel newydd gan y bydd pob un o'r cartrefi yn cynnwys technolegau adnewyddadwy a systemau rheoli ynni clyfar i leihau'n sylweddol y galw am ynni ar y grid, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy leihau biliau ynni yn sylweddol.

 

Bydd y safle'n cynnwys 65 o gartrefi cyngor newydd, a bydd 44 ohonynt yn fflatiau Byw yn y Gymuned i bobl hŷn a 21 ohonynt yn dai dwy a thair ystafell wely.  Bydd 149 eiddo arall ar werth ar y farchnad agored a bydd tai cyngor a thai ar werth yn cael eu hadeiladu i'r un safonau perfformiad ynni.

 

Bydd y cynllun Byw yn y Gymuned o'r enw Addison House yn adeilad o'r radd flaenaf a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion pobl hŷn a dyma fydd y cyntaf o bedwar cyfleuster tebyg newydd i'w hadeiladu ar draws y ddinas fel rhan o Strategaeth Pobl Hŷn Cyngor Caerdydd. 

 

Bydd y cyfleuster yn cynnwys fflatiau un a dwy ystafell wely, sy'n cynnwys ardal fyw cynllun agored, balconïau preifat, dyluniad agwedd ddeuol, sy'n ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion newidiol preswylwyr. Bydd gan yr adeilad hefyd ddwy lolfa i breswylwyr, teras to sy'n edrych dros Fôr Hafren yn ogystal â gardd iard gymunedol fawr.

 

Mae'r Cyngor a Wates Residential yn gweithio gyda'r cwmni gwasanaethau ynni cynaliadwy yng Nghaerdydd, Sero i ymgorffori technolegau carbon isel wrth ddatblygu'r holl gartrefi newydd gan gynnwys pympiau gwres o'r ddaear, stôr-wresogyddion thermol clyfar, mannau gwefru cerbydau trydan, paneli solar a rheolaethau clyfar i breswylwyr. Bydd Sero yn darparu rhwydwaith rheoli ynni grid arloesol a fydd yn tynnu, rhyddhau a rhagweld gofynion ynni yn ddeallus, gan osgoi'r Grid Cenedlaethol bron yn llwyr ar adegau prysur.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i dreialu mathau newydd o gynlluniau adeiladu a chynlluniau ynni-effeithlon iawn wrth i ni geisio cynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y ddinas.

 

"Rydym eisoes yn arwain drwy esiampl yn ein dull o ddatblygu cartrefi arloesol, newydd ac rydym wedi derbyn grantiau RhTA yn dod i fwy na dros £7.4 miliwn ar gyfer cynlluniau Cartrefi Caerdydd. Nid yn unig y bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu cartrefi o ansawdd da y mae mawr eu hangen i'n helpu i fynd i'r afael â phwysau tai yn y ddinas, bydd y dechnoleg ynni adnewyddadwy a ymgorfforir yn helpu i leihau biliau i breswylwyr preifat a thenantiaid cyngor, yn ogystal â lleihau allbwn carbon y cartrefi newydd, sy'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

 

"Dyma'r datblygiad mwyaf yn ein rhaglen Cartrefi Caerdydd tra bod Addison House, y cyntaf o'n cynlluniau Byw yn y Gymuned ar y safle, yn rhan bwysig o'r datblygiad, yn darparu cartrefi modern i ddiwallu anghenion newidiol pobl hŷn dros amser.

 

"Rwy'n falch iawn o weld y cynllun cyffrous hwn yn dechrau ac rwy'n edrych ymlaen at wylio datblygiad y safle a'r cartrefi newydd arloesol hyn dros y blynyddoedd nesaf."

 

Dywedodd Ed Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential: "Rydym yn falch iawn o fynd â'n partneriaeth Cartrefi Caerdydd arbennig gyda Chyngor Caerdydd i'r lefel nesaf gyda'n safle datblygu mwyaf eto. Mae'r cartrefi newydd hyn wedi'u cynllunio gyda phobl leol mewn golwg ac maent yn cynnig esiampl ar gyfer byw cynaliadwy o ansawdd uchel a fydd yn arwain y ffordd o ran cynnig tai ynni effeithlon i Gymru.

 

"Credwn fod pawb yn haeddu lle gwych i fyw ynddo a, thrwy ddefnyddio dulliau adeiladu arloesol a thechnolegau arbed carbon sy'n dysgu o arferion defnyddio ynni pobl i leihau biliau ynni, gobeithiwn y bydd y cartrefi newydd hyn yn parhau i ddod â manteision cadarnhaol i'r gymuned leol am genedlaethau lawer i ddod."

 

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Sero, James Williams: "Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi ei uchelgais i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 - ac mae datgarboneiddio cartrefi newydd a phresennol eisoes yn amlwg yn rhan bwysig o'r darlun cyffredinol hwn.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Wates a'r Cyngor i ddangos glasbrint ar gyfer darparu cartrefi newydd carbon isel o ansawdd uchel ar draws y Brifddinas a thu hwnt.  Bydd y prosiect yn defnyddio systemau ynni hyblyg a reolir yn ddeallus a fydd - yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy allyriadau carbon is (drwy symud y galw am drydan oddi ar y grid ar oriau brig i helpu i gefnogi'r cyflenwad ynni adnewyddadwy) - yn arwain at filiau sylweddol is i breswylwyr a fydd yn helpu i ddileu'r risg o dlodi tanwydd. "

 

Mae gwaith wedi dechrau ar y safle a disgwylir iddo gael ei gwblhau fesul cam dros y tair blynedd nesaf.