Back
Ansawdd aer yng Nghaerdydd yn gwella

 

14/12/20

Mae'r data ansawdd aer diweddaraf ar gyfer Caerdydd yn awgrymu gwelliant amlwg yn 2019, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol mewn tair o'r pedair Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) yn y ddinas.

Mae'r data, a gafwyd cyn y pandemig, yn awgrymu gwelliant yn ansawdd aer yn y ddinas.

Sefydlir ARhAA pan fydd monitro llygredd aer yn dangos bod lefelau'n agos at neu'n uwch na'r terfynau cyfreithiol. Ar hyn o bryd mae ARhAA ar waith yng Nghanol y Ddinas (sy'n canolbwyntio ar Heol y Porth); Pont Trelái, Stephenson Court (oddi ar Heol Casnewydd), ac yn Llandaf.

Y terfyn cyfreithiol ar gyfer NO2yng Nghymru yw crynodiad cyfartalog blynyddol o 40μg/m3. Mae canlyniadau monitro mewn lleoliadau lle mae preswylwyr yn fwy tebygol o gael eu hamlygu o fewn yr ARhAAau wedi dangos y canlyniadau canlynol ar gyfer 2019:

 

Heol y Porth:Yn 2018, crynodiad cyfartalog blynyddol NO2 oedd 37.3μg/m3a ostyngodd i 35.6μg/m3yn 2019

Stephenson Court: Yn 2018, crynodiad cyfartalog blynyddol NO2 oedd 38.2μg/m3 a ostyngodd i 35.7μg/m3 yn 2019

Pont Trelái:Yn 2018, crynodiad cyfartalog blynyddol NO2 oedd 39.9μg/m3 a ostyngodd i 38.6μg/m3 yn 2019

Llandaf:Yn 2018, crynodiad cyfartalog blynyddol NO2 oedd 32.5μg/m3 a gynyddodd i 41.3μg/m3 yn 2019.

 

Er yr ymddengys fod canlyniadau ARhAA Llandaf yn dangos darlun sy'n gwaethygu, mae angen eu gweld mewn cyd-destun, gan nad yw'r canlyniadau'n cymharu lleoliadau 'tebyg am debyg'. Mae canlyniadau 2019 yn cynrychioli safle monitro newydd a gofnododd grynodiadau o 48μg/m3 yn 2018. 

Oherwydd rhai bylchau mewn data yn y lleoliad hwn, nid ystyriwyd bod y data a gasglwyd yn 2018 yn wirioneddol gynrychioliadol. Yn sgil pryderon parhaus am lefelau uwch o NO2y canlyniadau yn ARhAA Llandaf, mae'r Cyngor wedi gosod monitor amser real i sicrhau y gellir casglu data cadarn a pharhaus i helpu i lywio unrhyw gamau gweithredu i leihau lefelau llygredd ymhellach yn y lleoliad hwn.

Ystyrir mai ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Gyfunol, ac ar ôl ysmygu, yr ail fygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae tystiolaeth glir yn dangos bod cael eich amlygu i lygredd aer yn lleihau disgwyliad oes ac yn cynyddu'r risg o farwolaeth, clefyd y galon, strôc, afiechydon anadlol, canser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill yn sylweddol.

 

Yng Nghymru, yn seiliedig ar ddata 2011/12, amcangyfrifwyd y gellir cysylltu cyfwerth â 1,100 o farwolaethau y gellir eu hosgoi gydag amlygiad i Nitrogen Deuocsid (NO2) bob blwyddyn. O edrych ar ddata ar gyfer y DG yn 2016, amcangyfrifwyd bod llygredd aer yn gyfrifol am yr hyn sy'n gyfwerth â 40,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

 

Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Mae'r data ar gyfer 2019 yn dangos gwelliant parhaus o'i gymharu â 2018, y bwriadwn adeiladu arno i leihau llygredd aer ar draws y ddinas. Mae'r data ar gyfer 2020 yn edrych hyd yn oed yn fwy addawol, ond yn amlwg bydd effaith y cyfyngiadau symud oherwydd COVID yn cael effaith ar ddata eleni.

 

"Mae adroddiad gan y Centre for Cities sydd wedi ei ryddhau yn ddiweddar yn edrych ar effaith ansawdd aer yn ystod y pandemig, ac mae'n ymddangos nad yw Caerdydd wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig o lygredd aer fel y gwnaeth rhai dinasoedd.

 

"Mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi gosod ein Strategaeth Un Blaned ger bron sy'n cyflwyno ymateb y cyngor i newid yn yr hinsawdd a'r prosiectau a'r cynlluniau a fydd yn dod â ni ymhellach tuag at ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030."

 

Cyflwynir y canfyddiadau i Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y canlyniad a roddwyd yn 2018 ar gyfer ARhAA Llandaf wedi'i leoli y tu allan i Hen Orsaf yr Heddlu, Mitre Place. Cofnodwyd y canlyniad a ddarparwyd yn 2019 y tu allan i'r cyfeiriad preswyl 62 Stryd y Bont. O ystyried y gwahaniaeth hwn mewn ardal, ni ellir ei gymharu'n wyddonol â'r data a gyhoeddwyd ar gyfer Llandaf rhwng 2018 a 2019.

Mae gan y Cyngor nifer o orsafoedd monitro ansawdd aer ledled y ddinas. Mae gan Gaerdydd orsafoedd monitro awtomataidd a gorsafoedd monitro nad ydynt yn awtomataidd. Mae'r gorsafoedd monitro awtomataidd yn cofnodi lefelau ansawdd aer ar gyfer nifer o lygryddion 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae'r safleoedd monitro nad ydynt yn awtomataidd yn defnyddio tiwbiau trylediad goddefol i gofnodi ffigurau cyfartalog misol Nitrogen Deuocsid (NO2). Yma caiff tiwbiau trylediad eu casglu a'u dadansoddi gan labordy bob mis i gynhyrchu ffigurau cyfartaledd misol o NO2.

Lleolir gorsafoedd monitro awtomataidd yn Heol Frederick; Richards Terrace; Ysgol Gynradd Lakeside, Stryd y Bont Llandaf, ac yn fwy diweddar Stryd y Castell, Heol y Porth, Heol Isaf y Gadeirlan, Stryd Tudor, Heol y Gogledd a Heol Penarth.

Cesglir data tiwbiau tryledu o dros 100 o safleoedd ledled Caerdydd sy'n cynnwys monitro mewn nifer o sefydliadau ysgol.