Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 11 Rhagfyr

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: partneriaid yn rhybuddio bod Caerdydd a'r Fro yn wynebu argyfwng Covid; achosion a phrofion COVID-19;diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; aAtyniadau Nadolig Castell Caerdydd yn cau heno.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Partneriaid yn rhybuddio bod Caerdydd a'r Fro yn wynebu argyfwng Covid

Mae sefydliadau Caerdydd a Bro Morgannwg sydd ar reng flaen yr ymateb i Covid-19 wedi dod at ei gilydd i rybuddio eu bod yn wynebu sefyllfa o argyfwng wrth i nifer yr achosion gofnodwyd o Covid-19 yn y rhanbarth gyrraedd y lefel uchaf erioed.

Mae'r Heddlu, y Bwrdd Iechyd Prifysgol, Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn pryderu'n fawr am gynnydd sydyn mewn cyfraddau trosglwyddo a chyfraddau phrofion positif yn ogystal â nifer yr achosion.

Mae mwy o bobl yn dal Covid-19 ac mae adnoddau dan bwysau difrifol gyda gweithwyr meddygol proffesiynol o dan bwysau sylweddol.

Mae adnoddau ysbytyau'n cael eu profi a staff yn cael eu gwthio i'r eithaf yn dilyn eu profiad yn wynebu'r pandemig.

Erbyn hyn mae bron i 16,000 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghaerdydd a'r Fro, mae 11 o bobl mewn Unedau Gofal Dwys ar hyn o bryd, ac ar hyn o bryd nid yw 278 o staff meddygol a nyrsio yn gallu gweithio yn y Bwrdd Iechyd am eu bod yn hunanynysu oherwydd Covid.

Mae nifer fawr o swyddogion yr heddlu hefyd yn hunanynysu ar ôl dal y feirws ar sifftiau sy'n gyson yn cynnwys gwasgaru digwyddiadau torfol anghyfreithlon.

Nawr mae'r cyrff sy'n gyfrifol am gadw pobl yn ddiogel yn ystod y pandemig yn apelio ar y cyhoedd i fynd i'r afael â'r ymddygiadau sydd wedi rhoi Caerdydd a'r Fro ar lwybr argyfwng.

Ar wahan i gadw ddau fetr ar wahân, golchi dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen, mae'n bwysig:

        Osgoi rhannu ceir.

        Gweithio o gartref lle bynnag y bo modd.

        Osgoi rhyngweithio cymdeithasol os oes angen i chi ymweld â man gwaith.

        Osgoi cymdeithasu a chymysgu yng nghartrefi pobl eraill.

        Gwnewch eich siopa Nadolig ar eich pen eich hun.

 

Mae hefyd yn bwysig hunanynysu a chael prawf os cewch unrhyw symptomau a hunanynysu os yw aelod arall o'r aelwyd yn dangos symptomau.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, "Ni allai'r cynnydd yn nifer yr achosion rydym yn eu gweld nawr yn Nghaerdydd fod yn fwy amlwg. Mae angen i hyn fod yn rhybudd i bob un ohonom ynghylch difrifoldeb mawr y sefyllfa rydym yn ei hwynebu nawr. Os gwireddir yr amcanestyniadau presennol, yna erbyn wythnos y Nadolig bydd amlder y clefyd yn y gymuned yn arwain at lefel enfawr o drosglwyddiad o fewn teuluoedd ac yn anochel at golli llawer o fywydau. Bywydau nad oes rhaid eu colli.

"Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithredu nawr, ac nid yn unig drwy gadw at reoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn unig, ond drwy gymryd camau pellach i ddiogelu'r rhai rydym yn bwriadu eu gweld adeg y Nadolig - ein hanwyliaid. Dylem gadw ein cysylltiad â phobl y tu allan i'n cartref i'r isafswm absoliwt nes bod y bygythiad presennol wedi mynd heibio, ond yn enwedig dros y pythefnos nesaf. Gwn y bydd hynny'n boenus i lawer, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, ond mae'n bris y mae angen i ni ei dalu nawr, fel y gallwn amddiffyn ein hanwyliaid yn y misoedd i ddod. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn meddwl bod y brechlyn yma felly mae popeth yn mynd i fod yn iawn. Nid yw hynny'n wir. Gallai llawer o bobl farw cyn i'r brechlyn gael ei gyflwyno os na fyddwn yn newid ein hymddygiad nawr, pobl nad oes angen iddynt farw. Aelodau o'ch teulu chi.

"Gyda'n cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Heddlu De Cymru, rydym yn gwbl barod ar gyfer y frwydr hon yn erbyn COVID-19. Ond mae'n parhau i fod yn her enfawr, un y byddwn yn ei hwynebu orau os byddwn yn ei hwynebu hi gyda'n gilydd, yn union fel y gwnaethom yn y gwanwyn. Rwy'n gofyn i bob un ohonoch ymateb i'r her honno gyda'ch gilydd. Gadewch i ni atal y lledaeniad, a gadewch i ni gadw Caerdydd, y GIG a'n hanwyliaid yn ddiogel."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25435.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (02 Rhagfyr - 08 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

10 Rhagfyr

 

Achosion: 1,648

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 449.2 - Cynnydd o 88.5% mewn pythefnos (Cymru: 403.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,070

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,472.0

Cyfran bositif: 18.2% (Cymru: 18.5% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 11.12.20

Ysgol Gynradd Baden Powell

Mae aelod staff Ysgol Gynradd Baden Powell wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 19 o ddisgyblion a dau aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf

Mae disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 68 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd Caerdydd

Mae disgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 20 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.      

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Mae disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 89 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Uwchradd Cathays

Mae disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Cathays wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 90 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Coed y Gof

Mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Coed y Gof wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 25 o ddisgyblion a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.   

Ysgol Gynradd Gabalfa

Mae dau ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gabalfa wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 51 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 5, a 7 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Glantaf

Mae disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Glantaf wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae'r cysylltiadau agos â'r achos a gadarnhawyd wrthi'n cael eu pennu. Mae'r grŵp blwyddyn wedi'i ynysu yn y cyfamser. 

Ysgol Gynradd Grangetown

Mae disgybl Blwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Grangetown wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 24 o ddisgyblion a 3 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Arbennig The Hollies

Mae aelod o staff yn Ysgol Arbennig The Hollies wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 14 o ddisgyblion a 5 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Hywel Dda

Mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Hywel Dda wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 29 o ddisgyblion a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Kitchener

Mae dau aelod o staff yn Ysgol Gynradd Kitchener wedi profi'n bositif am COVID-19.  Mae 60 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 2 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Marlborough

Mae disgybl Blwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Marlborough wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 26 o ddisgyblion a 4 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Plasmawr

Mae disgybl Blwyddyn 9 yn Ysgol Plasmawr wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 14 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Rhiwbeina

Mae aelod o staff, disgybl Dosbarth Derbyn a disgybl Blwyddyn 3 yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 65 o ddisgyblion a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Tredegarville

Mae disgybl Dosbarth Derbyn a disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Tredegarville wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 60 o ddisgyblion a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae disgybl Blwyddyn 7, disgybl Blwyddyn 8 a disgybl Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 95 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Atyniadau Nadolig Castell Caerdydd yn cau heno

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw ar gau pob atyniad awyr agored, bydd reidiau ffair Gŵyl y Gaeaf y Cyngor yng Nghastell Caerdydd a Thaith Gerdded Alice yng Ngwlad Hud yn cael eu cau heno.

Dilynwch y rheolau

Arafwch y lledaeniad

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

 

https://llyw.cymru/coronafeirws