Back
Hwb i Fae Caerdydd wrth i uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd gael ei ddatgelu

11/12/20

 

Datgelwyd uwchgynllun newydd ar gyfer Glanfa'r Iwerydd, sy'n nodi sut y bydd 30 erw o dir ym Mae Caerdydd yn cael ei ailddatblygu er mwyn helpu i drawsnewid Bae Caerdydd yn atyniad ymwelwyr rheng uchaf yng ngwledydd Prydain.

  

Gofynnir i Gabinet Cyngor Caerdydd gymeradwyo'r cynllun drafft Ddydd Iau, 17 Rhagfyr.  Os cytunir arno, bydd ymgynghoriad manwl â'r gymuned leol a busnesau lleol yn dechrau sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed.

 

Mae'r uwchgynllun newydd yn nodi nifer o brosiectau posibl ar safle sy'n ymestyn o Neuadd y Sir Caerdydd i Ganolfan y Ddraig Goch draw i Rodfa Lloyd George ac i lawr i'r Rhodres lle mae Plas Bute yn uno â Chanolfan y Mileniwm a'r Roald Dahl Plass, gan gynnwys:

  • Arena dan do â lle i 15,000;
  • Disodli Canolfan y Ddraig Goch â datblygiad defnydd cymysg newydd yn lle yn cynnwys darpariaeth hamdden a lletygarwch;
  • Atyniad newydd hedfan-drwodd ‘Dyma Gymru' i ymwelwyr;
  • Adeiladau diwylliannol newydd gerllaw Canolfan Mileniwm Cymru;
  • Sgwâr cyhoeddus 10,000 troedfedd sgwâr newydd a gofod digwyddiadau gydag atyniad am ddim i blant;
  • Hyd at 1,150 o gartrefi newydd;
  • Gwesty pedair seren 150 ystafell wely newydd;
  • 150,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa;
  • Crynhoi'r parcio gwasgarog i geir presennol mewn maes parcio aml-lawr newydd.

 

Nod yr uwchgynllun yw y caiff ei gyflawni yn Ddigarbon Net a gallai gymryd hyd at 7 mlynedd i'w gyflawni mewn pedwar cam. Bydd yr arena dan do newydd, a gaiff ei hadeiladu'n gyntaf, yn gweithredu fel datblygiad angori, gan ddarparu catalydd ar gyfer buddsoddi yn yr ardal o'i amgylch.

 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas: "I ddinasoedd llwyddiannus, nid un digwyddiad yw adfywio, mae'n broses barhaus. Bu ailddatblygu Bae Caerdydd dri degawd yn ôl yn fodd o sefydlu Caerdydd fel Prifddinas Ewropeaidd deinamig, ac heddiw rydym yn cyflwyno gweledigaeth ger bron ar gyfer y cam nesaf yn yr ailddatblygu hwnnw.

 

"Un o'r beirniadaethau am ailddatblygiad Bae Caerdydd yn y gorffennol oedd ei fod wedi ei ynysu ac wedi eithrio'r gymuned leol yn Butetown. Rwy'n benderfynol na fydd hynny yn digwydd eto. Dydyn ni ddim eisiau ailfywiogi'r ardal yn unig rydyn ni eisiau ailfywiogi'r gymuned leol. Mae'r uwchgynllun hwn yn gosod ystod o brosiectau ger bron yr ydym yn credu a all gynnig swyddi, hyfforddiant a llewyrch i gymuned leol dydd yn parhau i fod yn un o'r mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Bydd y cam nesaf yn golygu ymgynghori'n helaeth er mwyn sicrhau y gallwn ddwyn cynllun yn ei flaen a fydd o fudd i bawb - er budd Caerdydd, er budd busnesau Caerdydd, er budd trigolion ac yn bwysicaf oll er budd pobl Butetown.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Penderfynodd y cyngor hwn yn y 1980au roi hwb i ailddatblygu Bae Caerdydd drwy adeiladu Neuadd Sir newydd. Helpodd hyn i arwain at gyflawni prosiect Morglawdd Bae Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru eiconig ac adeilad y Senedd a gynlluniwyd gan Richard Rogers.

 

"Nawr rydym am ddechrau adfywio ardal y Bae yn y cyfnod nesaf.  Bydd cyflwyno'r arena newydd â lle i 15,000 yn newid y gêm o safbwynt y ddinas. Bydd yn creu swyddi y mae mawr eu hangen yn yr ardal leol, gyda hyfforddiant carlam ar waith ar gyfer y gymuned leol, yn ystod yr adeiladu a phan gaiff y ganolfan drefol newydd ei hadeiladu.

 

"Mae wedi cymryd blynyddoedd lawer i gyrraedd y fan lle'r ydym nawr, ond bydd y datblygiad hwn yn sicrhau y bydd Caerdydd yn gallu dod â digwyddiadau a chynadleddau i'r ddinas na allwn eu gwneud nawr ac wrth wneud hynny ein helpu i gystadlu â dinasoedd fel Manceinion, Birmingham a Lerpwl.

 

"Credwn y gallai'r datblygiad newydd hwn gael yr un effaith gadarnhaol ar Fae Caerdydd ag a gafodd Datblygiad Dewi Sant 2 yng nghanol y ddinas. Bydd yr ail-ddatblygiad yn creu lle bywiog sy'n groesawgar ac yn ddeniadol i ymwelwyr a thrigolion, yn ogystal â darparu 1,150 o gartrefi newydd yn Butetown.

 

"Rydym hefyd wedi gosod y targed i ni'n hunain o greu'r ganolfan drefol newydd hon yn gwbl garbon niwtral, gyda gwres yn cael ei ddarparu i'r arena dan do newydd drwy Rwydwaith Gwres Ardal newydd Caerdydd."

 

Bydd y uwchgynllun newydd yn cyd-fynd â gwelliannau arfaethedig i'r rhwydwaith rheilffyrdd fel rhan o'r prosiect METRO a arweinir gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn gweld llwybrau beicio a cherdded gwell ar Rodfa Lloyd George ac ar draws y Bae.

 

Mae'r uwchgynllun wedi'i ddatblygu i fod yn hyblyg fel ei fod yn gallu addasu i rymoedd y farchnad yn ystod y cyfnod datblygu.

 

Pedwar cam y prosiect yw:

 

Cam 1: Bydd yr arena Dan Do newydd yn cael ei hadeiladu'n gyntaf.  Bydd yn sicrhau cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a fydd yn sail i'r achos buddsoddi i sectorau eraill fuddsoddi yn yr ardal, megis manwerthu, hamdden a diwylliant.

 

Bydd gwesty presennol Travelodge ar Hemingway Road yn cael ei adleoli yn westy estynedig newydd fel rhan o ddatblygiad yr arena. Y bwriad yw adeiladu maes parcio aml-lawr newydd wrth ymyl maes parcio canolfan y Ddraig Goch, a fydd wedyn yn rhyddhau gweddill y tir i'w ail-ddatblygu a mannau cyhoeddus newydd.

 

Cam 2: Yna bydd Canolfan y Ddraig Goch yn cael ei disodli gan ddatblygiad pwrpasol newydd, gyda chyfleusterau modern wedi'u huwchraddio. Bydd hyn yn cynnwys cynnig hamdden newydd, a fyddai'n gweld busnesau presennol yn cael eu hadleoli ac unedau bwyd a diod newydd yn cael eu hychwanegu.  Mae cynlluniau hefyd ar gyfer atyniad rhithwir 'Dyma Gymru' i ymwelwyr ‘hedfan drwyddo'.

 

O dan y cynigion presennol, gallai'r Canolfan y Ddraig Goch newydd hefyd gael 150 o unedau preswyl uwchben yr unedau hamdden. Unwaith y bydd Canolfan y Ddraig Goch wedi'i hadleoli i adeilad newydd, bydd gofod digwyddiadau 10,000 troedfedd sgwâr newydd a sgwâr cyhoeddus yn cael eu hadeiladu, a fydd yn cynnwys 300 o goed newydd, yn ogystal ag atyniad chwarae am ddim i blant.

 

Cam 3:Yn seiliedig ar ddiddordeb y farchnad, gellid cynnig gofod swyddfa 150,0002newydd ynghyd â gwesty 4 seren 150 gwely newydd, a fydd yn cael ei adeiladu o flaen y gofod digwyddiadau newydd. Dim ond ar ôl i'r maes parcio aml-lawr gael ei adeiladu yng ngham 1 y bydd cam 2 a 3 y prif gynllun yn gallu bwrw ymlaen, gan ryddhau'r tir i'w ailddatblygu.

 

Cam 4:Os bydd y Cyngor yn penderfynu ei bod yn gallach adeiladu Neuadd Sir newydd nag adnewyddu'r adeilad presennol, yna gallai datblygiad preswyl ddarparu 600 o gartrefi newydd ar safle presennol Neuadd y Sir gan wynebu Doc Dwyrain Bute. Gallai hyn hefyd gynnig cyfleoedd manwerthu, bwyd a diod a gofod swyddfa o bosibl mewn datblygiad cymysg o flociau fflatiau.

 

Gan wynebu Rhodfa Lloyd George, yn lleoliad y sinema Odeon bresennol, y cynnig yw adeiladu datblygiad defnydd cymysg pellach a allai ddarparu 300 o gartrefi newydd eraill, gyda'r posibilrwydd o ddarparu ar gyfer defnyddiau eraill fel gofod swyddfa ac o bosibl gwesty arall.

 

Yr Ardal Ddiwylliannol:Byddai'r tir sydd ar gael ar gyfer yr ardal ddiwylliannol ar gael ar ôl cam 2. Yn amodol ar gyllid, mae'r cynigion yn cynnwys Stiwdio Gynhyrchu newydd ac amgueddfa gelf gyfoes fawr newydd gerllaw Canolfan Mileniwm Cymru.

 

Canolfan Drafnidiaeth: Cynigir bod canolfan a chyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn cael eu hadeiladu ar safle Stryd Pen y Lanfa i ddarparu ar gyfer unrhyw wasanaethau tram-drên a bws newydd. Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys pont newydd i gerddwyr ar draws yr A4232 i ddarparu cyswllt rhwng y gofod digwyddiadau newydd a'r ganolfan drafnidiaeth.

 

Rhodfa Lloyd George:Gallai cynigion weld y ffordd yn cael ei hailgynllunio gydag un lôn o draffig i'r naill gyfeiriad a'r llall. Fel rhan o'r prosiect METRO dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gellid creu rhodfa newydd wedi'i thirlunio yn cysylltu canol y ddinas â'r Bae, gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiadau cyfyngedig ar groesfannau allweddol ar hyd y llwybr. Bydd y Rhodres hefyd yn cael ei hailgynllunio i leihau llif traffig yn yr ardal, gan wella'r cyfleusterau i gerdded rhwng yr harbwr mewnol a Glanfa'r Iwerydd.

 

Os bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r prosiect, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei drefnu a'i gyflawni a bydd y broses o gyflwyno Cais Cynllunio Amlinellol ar gyfer yr uwchgynllun yn dechrau.