11/12/20
Gallai adolygiad gan Gyngor Caerdydd o Ardal Gadwraeth hanesyddol Llandaf arwain at gadw treftadaeth unigryw'r ardal yn well, ac ymestyn yr ardal a ddiogelir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r cynlluniau, a nodir mewn adroddiad gan Gabinet Cyngor Caerdydd a gyhoeddwyd ar eu gwefan, yn cyflwyno cynllun rheoli newydd ar gyfer yr ardal, a ddaeth yn 1968 y cyntaf o saith ar hugain o ardaloedd y ddinas sydd bellach wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth.
Os cânt eu cymeradwyo, byddai'r cynlluniau hefyd yn gweld yr ardal bresennol yn cael ei hymestyn i gynnwys pen dwyreiniol Heol y Tyllgoed a The Avenue.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Roedd Llandaf yn endid ynddo'i hun tan 1922 pan estynnodd Caerdydd ei ffiniau - mae'n ddinas o fewn dinas, ac mae cymaint o hanes gwerthfawr yn ei strydoedd, ei mannau gwyrdd, a'i hadeiladau, ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i'w diogelu a'i chadw.
"Diben yr adolygiad hwn yw nodi gwell dealltwriaeth o bopeth sy'n gwneud yr ardal hon yn arbennig, fel y gallwn sicrhau ei bod yn parhau i gael ei ddiogelu a'i gwella o fewn y system gynllunio.
"Rhaid diolch i Gynghorwyr ward lleol, gwirfoddolwyr lleol, Grŵp Cadwraeth Llandaf, a Chymdeithas Llandaf am eu mewnbwn i'r broses hon - rydym wedi gweithio'n agos gyda nhw ar yr arfarniad hwn o'r ardal a fydd, os caiff ei gymeradwyo gan fy nghydweithwyr yn y Cabinet yr wythnos nesaf, yn sicrhau nid yn unig bod nodweddion unigryw'r ardal hanesyddol hon yn goroesi, ond yn cael eu gwella ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Canfu'r arfarniad, y cyntaf o'r ardal ers 2006, fod 83% o'r newidiadau a wnaed i eiddo yn yr ardal rhwng 2004 a 2017 naill ai wedi cadw neu wella cymeriad yr ardal, a bod adeiladau o werth hanesyddol a phensaernïol arbennig, a'r amgylchfyd cyhoeddus, wedi'u diogelu neu eu gwella ar y cyfan o ganlyniad i ddynodiad Ardal Gadwraeth yr ardal.
Nodwyd hefyd nifer o gyfleoedd i wella'r ardal ac mae'r arfarniad yn nodi ystod o nodau ac amcanion sy'n cyfrannu at y weledigaeth hir dymor ar gyfer yr ardal gadwraeth, sef, fel y nodir yn yr arfarniad, "cael gwared ar unrhyw ychwanegiadau modern na roddwyd ystyriaeth briodol iddynt ac annog addasiadau o safon uchel er mwyn i bwysigrwydd pob adeilad, a'r ardal gadwraeth gyfan, gael ei ddatgelu'n gliriach a'i amddiffyn ar gyfer y dyfodol."