Back
Diweddariad COVID-19: 10 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (01 Rhagfyr - 07 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

09 Rhagfyr

 

Achosion: 1,585

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 432.0 (Cymru: 380.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 8,890

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,423.0

Cyfran bositif: 17.8% (Cymru: 17.7% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 10.12.20

Ysgol Gynradd Pen-y-bryn
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Pen-y-bryn. Mae 2 o ddisgyblion Blwyddyn 6 ac 1 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd Corpus Christi
Mae pedwar achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Mae 233 o ddisgyblion Blwyddyn 11 a 5 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd Cantonian
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cantonian heddiw. Mae 147 o ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd.

 

Ysgol Gynradd Coed Glas

Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Coed Glas. Mae 86 o ddisgyblion y Feithrinfa a Blwyddyn 2 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Gynradd Trelái
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Trelái. Mae 110 o ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 ac 8 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Pentyrch
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Pentyrch. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a 4 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Gynradd Llwynbedw
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Llwynbedw. Mae 26 o ddisgyblion Blwyddyn 2 ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd Caerdydd 
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae tri aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd.  

Uned Drochi Ysgol Glan Ceubal
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Uned Drochi Ysgol Glan Ceubal. Mae 15 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae 35 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Mae 96 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.