Back
Cynllun i hyrwyddo urddas mislif wedi'i estyn i'r gwyliau ysgol

 


9/12/2020

Bydd cynllun i ddarparu nwyddau mislif am ddim i ddisgyblion ysgol trwy gydol gwyliau'r Nadolig yn cael ei gyflwyno'r wythnos hon.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y fenter yn dosbarthu bron 15,000 o becynnau o nwyddau mislif ecogyfeillgar i ysgolion uwchradd, gan alluogi'r disgyblion hynny sydd eu hangen gael nwyddau mislif am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yn ogystal, bydd 12,000 o becynnau eraill yn cael eu darparu i ysgolion cynradd ac arbennig pan fydd disgyblion yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r Nadolig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, "Ers lansio ymrwymiad Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif ym mis Mawrth 2019, mae cyfres o gynlluniau wedi'u cyflawni i ymateb i dlodi mislif yn ein cymunedau a helpu i gael gwared ar y stigma cysylltiedig.

"Mae sicrhau bod disgyblion yn dal i allu cael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt tra bod ysgolion ar gau yn hanfodol er mwyn sicrhau nad ydynt yn teimlo cywilydd mewn perthynas â'u mislifoedd, ac mae'r fenter ddiweddaraf hon yn helpu i fynd i'r afael â hyn yn ogystal â fforddiadwyedd."

Yn gynharach eleni, rhoddodd y Cyngor gymorth ariannol i'r holl ddisgyblion hynny yr oedd angen iddynt gael darpariaeth fislif ac sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, fel y gallent brynu nwyddau hylendid tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Dair blynedd yn ôl, cynhaliwyd arolwg urddas mislif mewn ysgolion uwchradd i gael barn merched ifanc ar urddas mislif ac i ymgynghori â nhw ynghylch a fydden nhw'n hoffi cael nwyddau mislif am ddim.

"Roedd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed ac y gweithredir arni ac mae wedi helpu i gael gwared ar rwystrau mewn addysg. Yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, mae'n hanfodol bod disgyblion yn gallu parhau i gael gafael ar y nwyddau hylendid mae eu hangen arnynt."

Mae pecynnau'r gwyliau yn cynnwys nwyddau mislif cynaliadwy a gyflenwir gan y fenter gymdeithasol Hey Girls a'r cyflenwr TOTM. Byddant ar gael i ddisgyblion uwchradd ar y dechrau a byddant yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion arbennig a disgyblion cynradd ym Mlynyddoedd 5 ac uwch yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Celia Hodson, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hey Girls, "Mae Hey Girls yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd i sicrhau bod disgyblion yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif dros wyliau'r ysgol.  

Mae darparu pecynnau o nwyddau mislif ecogyfeillgar o ansawdd uchel i fynd â nhw adref yn helpu i gael gwared ar stigma a rhwystrau i ddisgyblion o ran cael gafael arnynt ac mae'n hyrwyddo cydraddoldeb mislif.  

Trwy gyflwyno dewisiadau mwy ecogyfeillgar i reoli mislifoedd mae Caerdydd hefyd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn amlygu diogelu mislif cynaliadwy."