Back
Sefydlu Uned Brofi Symudol COVID-19 yn Nhrem y Môr, Grangetown

09/12/20 

Mae Uned Brofi Symudol COVID-19 dros dro wedi'i sefydlu yn Grangetown mewn ymateb i gynnydd o 75 y cant yn nifer yr achosion ledled Caerdydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf. 

Wedi'i lleoli yn y maes parcio cyhoeddus ar Jim Driscoll Way, mae'r uned brofi dros dro ar agor rhwng 9am a 3pm, gan weithredu ar y diwrnodau canlynol:

  • Dydd Mercher 9 - Dydd Gwener 11 Rhagfyr
  • Dydd Mercher 16 - Dydd Gwener 18 Rhagfyr
  • Dydd Llun 21 - Dydd Gwener 23 Rhagfyr
  • Dydd Mawrth 29 - Dydd Gwener 30 Rhagfyr
  • Dydd Mercher 6 - Dydd Gwener 8 Ionawr 

Mae'r uned yn agored i drigolion lleol sy'n dangos symptomau COVID-19 ar sail apwyntiad,naill ai drwy ffonio 119 neu ymweldllyw.cymru/coronafeirwsar-lein. Ni fydd aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r uned heb apwyntiad yn cael prawf. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, "Fel rydyn ni'n ei weld yng Nghymru yn gyffredinol, mae nifer yr achosion yn cynyddu ledled Caerdydd, ond yn enwedig yng nghornel dde-orllewin y ddinas, gan gynnwys Grangetown. 

"Rydym wedi gweld y gwerth a geir o gynnal profion yn effeithiol drwy gydol y pandemig, ac mae'r Uned Brofi Symudol wedi cael ei defnyddio yng Nghaerdydd ar adegau eraill cyn nawr, drwy bartneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

"Drwy ddefnyddio'r dull targedig hwn, gallwn greu darlun clir o'r hyn sy'n achosi lledaeniad yr haint yn yr ardal, a nodi unrhyw leoliadau sy'n destun pryder penodol. 

Os ydych yn byw yn yr ardal ac os oes gennych symptomau Covid-19 - peswch parhaus newydd, mae eich ymdeimlad o flas neu arogl wedi diflannu neu newid, tymheredd uchel, - gofynnaf i chi drefnu prawf yn yr Uned Brofi Symudol ar unwaith." 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro:  "Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion ymhlith pob grŵp oedran ledled Caerdydd dros yr wythnos ddiwethaf. "Mae'n hanfodol bwysig felly bod pawb sy'n dangos symptomau Coronafeirws yn hynanynysu ac yn trefnu prawf iddyn nhw'u hunain ar unwaith. Dyma sut y gallwn atal lledaeniad y feirws gyda phob un ohonom yn chwarae rhan yn y gwaith o amddiffyn ein teuluoedd, ein cymdogion a'n cymunedau lleol."