Back
Gweithgareddau a digwyddiadau lles yn hybiau’r ddinas


 

4/12/20
Bydd nifer o ddigwyddiadau a gwasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu hailgyflwyno yn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd Caerdydd fesul cam o'r wythnos nesaf ymlaen.

 

Gan ddechrau o ddydd Llun, 7 Rhagfyr, bydd digwyddiadau cymunedol awyr agored a dan do, gweithgareddau hamdden a sesiynau dysgu neu hyfforddi, a fydd i gyd yn glynu'n gaeth at ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar COVID-19, yn cael eu hailgyflyno fel rhan o'r broses barhaus o adfer gwasanaethau yn y ddinas.

 

Mae gwasanaethau hanfodol i bobl sydd angen cymorth a chyngor wedi'u darparu gan gyfleusterau'r Cyngor drwy gydol y pandemig gyda'r ddarpariaeth yn addasu ac yn ymateb i sefyllfa sy'n newid yn barhaus.  Mae mwy a mwy o wasanaethau wedi hailgyflwyno dros y misoedd diwethaf, gyda ffocws cryf ar ddarpariaeth ddigidol, a darpariaeth wyneb yn wyneb ar frys pan fo angen.

 

Mae ailgyflwyno gwasanaethau pellach, a fydd yn cynnwys gweithgareddau fel ymgyrchoedd casglu sbwriel cymunedol, grwpiau garddio, clybiau llyfrau, grwpiau Cyfeillion a Chymdogion a chyrsiau hyfforddi, yn cydnabod, er bod darparu gwasanaethau'n ddigidol wedi bod yn achubiaeth i lawer dros yr wyth mis diwethaf, nad dyma'r ateb i bob cwsmer. 

 

A nawr bod y gaeaf ar ein gwarthau, gallai effaith unigedd cymdeithasol ar iechyd a lles trigolion ledled y ddinas, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed, fod yn niweidiol iawn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth nad yw gwasanaethau a ddarperir gan ein hybiau a'n llyfrgelloedd drwy gydol argyfwng COVID-19 wedi bod yn achubiaeth lwyr i gynifer o drigolion ledled y ddinas, boed y gwasanaeth rydym wedi'i redeg i'r rhai sy'n cael anawsterau i gael bwyd, y galwadau lles y mae ein timau wedi'u gwneud i'r rhai sy'n agored i niwed, neu'r cyngor a'r wybodaeth amhrisiadwy y mae ein gwasanaethau Cynghori wedi'u roi i'r rhai sy'n profi effaith yr argyfwng ar eu cyflogaeth neu eu harian.

 

"Rydym wedi addasu gwasanaethau i barhau i gefnogi pobl gyda darpariaeth fel clybiau swyddi digidol, digwyddiadau lles rhithwir, mynediad at gyfrifiaduron a drefnir ymlaen llaw a gwasanaethau llyfrgell clicio a chasglu. Ond nid yw llawer o'n trigolion mwyaf agored i niwed yn ymgysylltu'n ddigidol ac rydym yn pryderu y bydd absenoldeb rhyngweithio ‘go iawn' â gwasanaethau yn cael effaith barhaol a negyddol ar y bobl rydym am eu cefnogi.

 

"Mae ailgyflwyno gwasanaethau wyneb yn wyneb, mewn ffordd a reolir yn dda sy'n blaenoriaethu iechyd a diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid, yn gam cadarnhaol ymlaen ac yn un a fydd, yn ein barn ni, o fudd gwirioneddol i'n cwsmeriaid, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael eu hynysu'n gymdeithasol yn ystod y dyddiau anodd hyn."

 

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio hybiau a llyfrgelloedd y ddinas, mae cynlluniau mewnol wedi'u diwygio lle bo angen i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol, systemau un ffordd ac arwyddion clir ar waith a bod sgriniau Perspex wedi'u gosod.  Bydd mwy o waith glanhau yn cael ei wneud ym mhob cyfleuster a bydd terfynau capasiti llym ar waith ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.

 

Mae trefnu pob sesiwn ymlaen llaw yn hanfodol a gellir gwneud hynny drwy ffonio Llinell Gyngor y Cyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostiohybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Bydd digwyddiadau digidol i bobl gael mynediad iddynt o'u dyfais eu hunain gartref yn parhau i gael eu cyflwyno.  Mae gwybodaeth am hybiau a digwyddiadau llyfrgelloedd ar gael ar wefan newydd Digwyddiadau Hybiau Caerdydd ynwww.cardiffhubs.co.uk