Back
Newidiadau i sut y gallwch gael gwared ar bapur lapio (04.12.20)

ARCHIF - 04.12.2020

Dim ond 21 diwrnod sydd tan y Nadolig, ydych chi wedi dechrau (neu wedi gorffen) eich siopa Nadolig eto?

Os ydych yn bwriadu rhoi cychwyn ar lapio anrhegion, nodwch ein bod wedi gwneud newidiadau i sut rydych yn cael gwared ar bapur lapio.

Yn aml mae gan bapur lapio gynnwys inc uchel iawn, mae'n cynnwys ychwanegion heblaw papur fel glitter, plastigau, siapiau lliw aur ac arian na ellir eu hailgylchu. Mae eraill yn denau iawn ac yn cynnwys dim ond ychydig o ffibrau o ansawdd da i'w hailgylchu. Mae'r cynnyrch hwn yn aml yn cael ei wrthod yn ystod y broses ailgylchu. Yn y gorffennol gwnaethom ei wahanu oddi wrth ddeunydd arall yn ein cyfleuster ailgylchu, ond nid yw hyn yn bosibl mwyach oherwydd mesurau pellter cymdeithasol.

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella ansawdd y deunydd sydd ar gael i'w ailgylchu, ni fyddwn yn derbyn papur lapio mwyach - oni bai ei fod yn bapur lapio brown plaen - mewn bagiau ailgylchu gwyrdd.

Fodd bynnag, rydym yn deall bod gan breswylwyr lawer iawn o bapur lapio dros gyfnod y Nadolig, felly rydym yn cynnig dewis arall.

Os gallwch chi ffitio'ch papur lapio yn eich bin du neu fag stribed coch, mae hynny'n wych, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Dim ond ei adael allan i'w gasglu.

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bapur lapio gormodol ar ôl llenwi'ch bin neu'ch bag stribed coch, wedyn am wythnosau'n dechrau 28ain Rhagfyr a 4ydd Ionawr yn unig, rhowch y papur lapio gormodol hwn mewn bag bin du a'i roi wrth ymyl eich bin du neu bagiau stribed coch a bydd ein criwiau yn ei gasglu.

Peidiwch â rhoi unrhyw beth heblaw papur lapio a chynhyrchion lapio eraill e.e., bwâu, llinyn ac ati yn y bagiau hyn, oherwydd efallai na fydd y criwiau yn eu codi os ydyn nhw'n cynnwys gwastraff cartref neu wastraff cyffredinol arall.

 

• Gallwch chi ailgylchu papur lapio brown plaen yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd o hyd, ond tynnwch unrhyw sellotape, bwâu a thagiau ac ati i gael gwared â'ch gwastraff cyffredinol.

 

• Dim ond ar eich wythnos casglu gwastraff gyffredinol y bydd y bagiau â gwastraff lapio nad ydynt yn ffitio i'ch biniau du neu fagiau stribed coch yn cael eu casglu - yr un diwrnod â'ch casgliad bin du neu fagiau stribed coch.

• Ni fydd bagiau ailgylchu gwyrdd sy'n cynnwys unrhyw bapur lapio nad yw'n lapio brown plaen yn cael eu casglu. Fel y nodwyd uchod gallwch chi roi papur lapio brown plaen mewn bagiau ailgylchu gwyrdd gydag deunyddiau ailgylchadwy eraill.

Os ydych chi'n archebu ymweliad â'n canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, ewch â'ch papur lapio wedi’i defnyddio gyda chi. Archebwch eich ymweliad yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx

Os ydych chi'n chwilio am ddewisiadau ecogyfeillgar eraill yn lle papur lapio traddodiadol, edrychwch ar ein canllaw yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25370.html