Back
100 o goed Ceirios fel symbol o gyfeillgarwch rhwng y Deyrnas Gyfunol a Japan i gael eu plannu ym Mharc y Mynydd Bychan

03/12/20 

Caiff 100 o goed Ceirios eu plannu ym Mharc y Mynydd Bychan fel rhan o Prosiect Coed Ceirios Sakura, prosiect lle caiff miloedd o goed sakura eu plannu ledled y DG. 

Yn ogystal â'r coed ym Mharc y Mynydd Bychan, caiff coed eu plannu hefyd mewn pum ysgol yng Nghaerdydd: Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Gynradd Kitchener. Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Monica, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. 

Cynhaliwyd lansiad Cymru y prosiect, sy'n rhan o Dymor Diwylliant Japan a'r Deyrnas Gyfunol, heddiw (4 Rhagfyr) yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. 

Yn siarad cyn y lansiad, dwedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich:  "Mae'n anrhydedd gwirioneddol i Gaerdydd gael ei dewis i dderbyn cymaint o'r coed ceirios hyfryd hyn, a fydd, rwy'n deall yn blodeuo ymhell i'r ganrif nesaf fel symbol hirhoedlog o'r cyd-ddealltwriaeth rhwng ein gwledydd." 

Dywedodd Conswl Anrhydeddus Japan, Keith Dunn OBE:  "Mae'r coed hyn yn symbol cryf o'n cyfeillgarwch y gall cenedlaethau'r dyfodol ei gefnogi a'i fwynhau ac rydym yn gobeithio y caiff y planhigion newydd hyn eu cofleidio gan ein cymunedau i'r dyfodol.

"Ein cenhadaeth yw creu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dod ag arwydd o'r berthynas rhwng y DG a Japan i'n cymunedau. Wrth i ni fwynhau'r blodau ceirios bob gwanwyn, byddant yn ein hatgoffa o dymor newydd o gydweithio posibl a chyfeillgarwch sy'n tyfu." 

I roi'r cyfle gorau i'r coed oroesi, caiff y plannu ei wneud yn gynnar yn nhymor plannu coed 2021. 

Cynrychiolir Prosiect Coed Ceirios Sakura yn Japan gan Gymdeithas Prydain Japan, a'i phrif rôl yw codi arian ar gyfer y prosiect, ac yn y DG gan bwyllgor arbennig a gynullwyd ganGwmni Matsuri Japan(sefydliad a gyd-reolir gan Gymdeithas Japan, Siambr Fasnach a Diwydiant Japan yn y DG,Cymdeithas Japan yn Llundaina Chlwb Nippon).