Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
#CadwchGaerdyddYnDdiogel
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (24 Tachwedd - 30 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
2 Rhagfyr
Achosion: 899
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 245.0 (Cymru: 237.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,430
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,752.5
Cyfran bositif: 14.0% (Cymru: 13.8% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 03.12.20
Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant. Mae 180 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Oakfield
Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Oakfield. Mae 26 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd.
Ysgol Bro Eirwg
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Bro Eirwg. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Llanisien
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae 20 o ddisgyblion Blwyddyn 13 ac 1 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf. Mae 100 o ddisgyblion o Flwyddyn 11 ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd y Dwyrain
Mae pedwar achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae 60 o ddisgyblion o Flwyddyn 7 ac 11 ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Cathays
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cathays. Mae 51 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.