Back
Boston, Risman a Sullivan - dewis y bobl ar gyfer cerflun Torwyr Cod Bae Caerdydd

02/12/20

Mae tri o chwaraewyr enwocaf rygbi'r gynghrair yn hanes y gêm - Billy Boston, Gus Risman a Clive Sullivan - wedi cael eu dewis i addurno cerflun i goffáu Torwyr Cod Bae Caerdydd.

Cytunodd y cyhoedd a phanel arbennig o arbenigwyr ar y triawd a fydd bellach yn cael eu hanfarwoli ar gerflun a fydd yn cynrychioli'r holl chwaraewyr aeth i Ogledd Lloegr o ardal Bae Caerdydd i ddisgleirio yn y gêm 13 bob ochr.

Cynigiwyd rhestr i'r cyhoedd o 13 o gyn-fawrion a aned oll yn ochrau Tiger Bay, Butetown, Grangetown, Adamsdown a Sblot yn ne Caerdydd, a'u gwahodd i bleidleisio dros eu hoff dri.

Yna dyfarnwyd pwyntiau ychwanegol i'r chwaraewyr i gyd am eu llwyddiannau gyrfaol gerbron panel cryf o saith arbenigwr, gan gynnwys capteiniaid presennol timau rygbi'r gynghrair dynion a menywod Cymru, Elliot Kear a Rafique Taylor, yn ogystal â'r anfarwol Jim Mills a Jonathan Davies, a chyflwynwyd y chwe dewis uchaf.

Cawsant gyfle i ddewis eu tri uchaf, gan ennill pwyntiau ychwanegol ar gyfer eu dewisiadau i gwblhau'r broses ddethol. Roedd pob aelod o'r panel yn cytuno â'r bleidlais gyhoeddus ac felly bydd Boston, Risman a Sullivan yn awr yn ymuno ar blinth a fydd hefyd yn cofio'r 10 chwaraewr arall.

"Mae'n ganlyniad gwych a chawsom bron i 14,000 o bleidleisiau gan y cyhoedd. Maen nhw'n amlwg yn gwybod eu stwff oherwydd bod y tri uchaf i gyd wedi'u gosod yn yr un drefn yn union gan bob un o saith aelod y panel," meddai cadeirydd Torwyr Cod Bae Caerdydd, Syr Stan Thomas.

"Fe wnaethon ni gynnig 13 o enwau gwych o'r gorffennol ac rydyn ni'n teimlo y bydd y tri sydd wedi'u dewis ar gyfer cerflun yn ysbrydoli'r bobl ifanc o'u hardal yn y dyfodol. Mae gan Billy, Gus a Clive straeon anhygoel y tu ôl i'w gyrfaoedd chwaraeon anhygoel.

"Cafodd Billy a Gus eu geni a'u magu yn hen ardal Tiger Bay ac aeth y ddau i Ysgol South Church Street. Daeth Clive o Sblot.

"Mae cael y tri ohonyn nhw at ei gilydd ar gerflun yn debyg i weld Bleddyn Williams, Gareth Edwards ac Alun Wyn Jones yn ymuno ar gerflun rygbi'r undeb neu John Charles, Ian Rush a Gareth Bale yn cael eu cysylltu mewn fersiwn pêl-droed.

"Roedd y tri yn sêr i'w clybiau gan c hwarae dros Gymru a Phrydain Fawr. Enillodd Billy a Clive Gwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair, tra bod Gus yn gapten ar Brydain Fawr mewn buddugoliaeth gyfres yn Awstralia ac wedi sgorio mwy na 4,000 o bwyntiau yn ei yrfa chwarae anhygoel, a barodd 24 mlynedd.

"Roedd Billy a Clive ill dau'n arweinwyr ar gyfer mabolgampwyr du yn ystod eu dyddiau chwarae, Clive oedd capten du cyntaf unrhyw dîm rygbi rhyngwladol Prydeinig pan arweiniodd ei ochr yng Nghwpan y Byd ym 1972.

"Mae cerflun o Billy yn Wigan yn barod, lle chwaraeodd ac mae'n dal i fyw, ac mae ef a Gus ymhlith pum chwaraewr a droswyd yn efydd ar gerflun rygbi'r gynghrair yn Stadiwm Wembley. Nawr byddant i gyd yn cael eu hanfarwoli yn eu dinas enedigol."

Mae angen codi mwy na £300,000 i gwblhau cerflun, a fydd yn cael ei godi yng nghanol ardal Bae Caerdydd. Mae'r gwaith o godi arian eisoes wedi dechrau ac mae Syr Stan yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn cefnogi'r apêl mor gryf ag y gwnaethant y pleidleisio. Y gobaith yw y gellir cwblhau'r broses gyfan o fewn dwy flynedd.

"Mae Billy, Gus a Clive wastad wedi bod yn ffigyrau enfawr yn stori chwaraeon gyfoethog Caerdydd, ond mae'r ffordd wnaethon nhw dorri allan o'u ffiniau lleol, trechu rhagfarnau hiliol a mynd ymlaen i fod yn sêr byd-eang yn eu gwneud hyd yn oed yn fwy nodedig," meddai Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

"Bydd cerflun i'r tri ohonynt yn ychwanegiad gwych i'r ddinas a gobeithiwn y bydd yn gatalydd o fewn eu hen ardal. Dylai'r enghraifft a osodwyd ganddynt fod yn ysbrydoliaeth i eraill."

 

Billy Boston
Ganed ar 6 Awst, 1934 yn Angelina Street, aeth i Ysgol South Church Street a chwaraeodd dros Ysgolion Caerdydd, Clybiau Bechgyn Cymru, Ieuenctid Cymru, y CIACS a Chastell-nedd yn rygbi'r undeb. Arwyddodd i Wigan RL tra'n dal i fod yn ei arddegau am £3,000. Roedd yn ddêl dda i Wigan wrth i Billy fynd ymlaen i sgorio 478 o geisiau mewn 487 o gemau ar eu cyfer, gan eu helpu i ennill tair o chwe rownd derfynol y Gwpan Her a gyrhaeddon nhw yn ei 15 tymor yn y clwb. Sgoriodd ddwywaith hefyd yn eu buddugoliaeth derfynol ym Mhencampwriaeth 1960 i ennill teitl cyntaf Wigan mewn wyth mlynedd, a chafodd ddwy fedal enillydd Cynghrair Swydd Gaerhirfryn ac un gwpan Swydd Gaerhirfryn. Enillodd Gwpan y Byd gyda Phrydain Fawr a chwaraeodd 31 prawf, gan ddod yn ymwelydd du cyntaf ag Awstralia. Chwaraeodd dros Gymru hefyd. Mae yn Neuadd Enwogion Rygbi'r Gynghrair a Wigan, ar 'Gofrestr Anrhydedd' Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru ac fe'i gwnaed yn MBE am ei wasanaethau i chwaraeon.

 

Gus Risman
fab i fewnfudwyr o Rwsia a ymgartrefodd yn Tiger Bay, ganed Gus ar 23 Mawrth, 1911, yn Sophia Street ac aeth i Ysgol South Church Street. Rhedodd ei rieni dŷ preswyl, cyn symud i'r Barri i redeg caffi pan oedd Gus yn 11 oed. Daeth yn un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed o Gymru, gan gapteinio'r tîm 15 bob ochr mewn gemau rhyngwladol yn ystod y Rhyfel, er iddo fod yn seren rygbi'r gynghrair. Mae ystadegau ei yrfa rygbi'r gynghrair yn syfrdanol ac mae'n aelod o Neuaddau Enwogion Rygbi'r Gynghrair a Workington ac mae ar ‘Gofrestr Anrhydeddau' Neuadd Chwaraeon Cymru. Mae ganddo strydoedd wedi'u henwi ar ei ôl yn Salford a Workington ac mae ar gerflun Rygbi'r Gynghrair yn Stadiwm Wembley. Rhwng 1929 a 1954 sgoriodd 4,052 o bwyntiau mewn 873 o gemau dros Salford a Workington Town. Chwaraeodd hefyd mewn 17 o gemau prawf i Brydain Fawr, gan chwarae mewn pum cyfres fuddugol Cyfres y Lludw, ac enillodd 18 o gapiau dros Gymru. Enillodd bedair Pencampwriaeth Rygbi'r Gynghrair, aeth i Wembley ar gyfer rownd derfynol y Gwpan Her dair gwaith, enillodd bum teitl Cynghrair Swydd Gaerhirfryn a thair medal enillydd Cwpan Swydd Gaerhirfryn. Roedd yn gapten tîm Workington Town a enillodd y Gwpan Her yn 41 oed.
 

Clive Sullivan
Ganed ef yn Sblot ar 9 Ebrill, 1943, ac ef oedd y capten du cyntaf ar unrhyw dîm rygbi rhyngwladol ym Mhrydain. Arweiniodd Brydain Fawr at deitl Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair ym 1972, gan sgorio cais ym mhob un o bedair gêm ei ochr yn y twrnament, gan gynnwys cais o un pen y cae i'r llall yn erbyn Awstralia a gyfrannodd at gêm gyfartal o 10-10 i gipio'r tlws. Ymunodd â'r Fyddin o'r ysgol a chafodd brawf rygbi'r gynghrair yn ei arddegau hwyr. Ymunodd â Hull FC yn y pen draw ac aeth ymlaen i chwarae 352 o gemau i'r clwb, gan sgorio 250 o geisiau. Yna newidiodd i Hull Kingston Rovers ac ychwanegodd 118 o geisiau i'w record mewn 213 o gemau. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf llawn i Brydain Fawr ym 1966-67 gan drwy sgorio'r cais buddugol yn erbyn Ffrainc yn y funud olaf. Chwaraeodd hefyd yng nghyfres Cwpan y Byd 1968 yn Awstralia, gan gapteinio Cymru yng Nghwpan y Byd 1975. Enillodd 17 o gapiau dros Brydain Fawr. Ym 1974, cafodd ei anrhydeddu gydag MBE ac mae ar ‘Gofrestr Anrhydedd' Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru. Enwyd y brif ffordd i Hull yn 'Clive Sullivan Way' er anrhydedd iddo yn dilyn ei farwolaeth ond yn 42 oed o ganser yr iau.