Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
#CadwchGaerdyddYnDdiogel
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Tachwedd - 27 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
29 Tachwedd
Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng:
Achosion: 780
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 212.6 (Cymru: 212.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,890
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,605.3
Cyfran bositif: 13.2% (Cymru: 13.0% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 30.11.20
Ysgol Gynradd Bryn Celyn
Mae aelod o staff Yn Ysgol Gynradd Bryn Celyn wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae un aelod arall o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl cael ei nodi fel cysylltiad agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Grangetown
Mae disgybl Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Grangetown wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 49 o ddisgyblion ac wyth aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd Pencaerau
Mae aelod o staff Yn Ysgol Gynradd Pencaerau wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 27 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 4 aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Treganna
Mae aelod o staff Ysgol Gynradd Treganna wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 29 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 2 aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd Trelái
Mae aelod o staff Yn Ysgol Gynradd Trelái wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 90 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 ac 8 aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Tŷ Gwyn
Mae disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Tŷ Gwyn wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 8 disgybl a 4 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Mae disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 81 o ddisgyblion ac un aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Willows
Mae disgybl Blwyddyn 8 a thri aelod o staff yn Ysgol Uwchradd Willows wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 11 o ddisgyblion a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.