Ailblannu coed Stryd y Castell i wella gorchudd coed yn Butetown.
Mae 14 o goed a osodwyd ar Stryd y Castell fel rhan o Gaffi Cwr y Castell wedi'u hailblannu'n barhaol mewn parc yng Nghaerdydd.
Mae’r coed Gellyg Callery addurnol wedi cael eu defnyddio i greu rhodfa dan gysgod coed ym Mharc Hamadryad yn Butetown, ardal sydd â’r ganran isaf o orchudd coed yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Bydd pedair coeden arall yn cael eu hychwanegu at y llwybr yn ystod wythnos Plannu Coed Genedlaethol, sy'n dechrau ar 28 Tachwedd.
Mae wythnos Plannu Coed Genedlaethol yn nodi dechrau rhaglen plannu coed flynyddol y Cyngor, a fydd eleni, gyda chymorth cyllid gan Gymdeithas Ddinesig Caerdydd a’r elusen Trees for Cities, yn gweld tua 150 o goed trwm safonol yn cael eu plannu ar strydoedd a pharciau'r ddinas.
Mae 1,000 o goed hefyd yn cael eu plannu ar safleoedd ysgolion i nodi lansiad strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor, a bydd 1,000 o goed eraill yn cael eu plannu yng ngwarchodfeydd natur a choetiroedd Caerdydd ac o'u cwmpas.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Pan ddaeth y trefniadau dros dro ar Stryd y Castell i ben roeddem yn awyddus i sicrhau bod cartrefi newydd, parhaol yn cael eu canfod ar gyfer y coed.
"Bydd y llwybr newydd hwn o goed yn ychwanegiad deniadol i'r parc, ond yn bwysicach na hynny mae hefyd yn gam bach tuag at gyflawni'r nod a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar fel rhan o'n Strategaeth Caerdydd Un Blaned mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, o gynyddu arwynebedd gorchudd coed yng Nghaerdydd i 25% erbyn 2030.
"Ers dechrau’r tymor plannu coed yn 2017 rydym wedi plannu mwy na 3,000 o goed yng Nghaerdydd a'r tu allan iddi. Rydym yn plannu mwy na 2,000 eleni a'n bwriad yw plannu llawer mwy wrth i ni yrru Caerdydd tuag at fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030."