25/11/20
Mae
symbol symudiad byd-eang dynion a bechgyn sy'n
gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched wedi daflunio ar
Orthwr y castell, un o dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, i nodi Diwrnod y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod a merched.
Yn
fwy cyffredin, caiff y diwrnod ei alw’n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, ac mae’n
digwydd ar 25 Tachwedd bob blwyddyn, yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r mudiad,
sy'n gweithio tuag at roi terfyn ar drais gwrywaidd yn erbyn menywod a hyrwyddo
cydraddoldeb rhywiol. Mae'r ymgyrch yn cymell dynion i sefyll a chyhoeddi eu
hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Tafluniwyd
y Rhuban Gwyn ar waliau gorthwr y castell, gan nodi
ymrwymiad a dyhead Caerdydd ar gyfer dyfodol heb drais gwrywaidd yn
erbyn menywod, ac mae blodau gwyn mewn patrwm rhuban hefyd wedi eu plannu yn y
gwelyau blodau y tu allan i'r Castell.
Mae cyfres o ddigwyddiadau digidol yn cael eu cynnal
i gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn gan gynnwys gwylnos rithwir yng ngolau
cannwyll, sesiynau codi ymwybyddiaeth a hyfforddi amlasiantaethol i weithwyr
proffesiynol, yn ogystal â digwyddiadau cyhoeddus ar-lein i unrhyw un a hoffai
gael gwybod mwy am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael yng Nghaerdydd a Bro
Morgannwg. Daw'r digwyddiadau i ben ar 10 Rhagfyr sy'n nodi Diwrnod Hawliau
Dynol y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd, Lles a Gofal
Cymdeithasol, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae’n
bwysicach nag erioed yn y cyfnod heriol hwn ein bod yn gwneud ein safiad yn
erbyn unrhyw ffurf ar gam-drin domestig a thrais mewn dull proffil uchel fel
hwn.
"Yn hanesyddol, mae ymgyrchoedd ynghylch rhoi
terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched wedi cael eu hystyried yn fater i
fenywod yn unig, ond rhoddir cydnabyddiaeth bellach i bwysigrwydd cynnwys
dynion ynddynt. Mae'r rhan fwyaf o ddynion yn credu bod unrhyw fath o drais a
cham-drin sy’n targedu menywod a merched yn annerbyniol ond yn aml nid ydynt yn
codi llais ynghylch hyn. Y distawrwydd
hwn sy'n caniatáu i ymddygiadau negyddol, ac agweddau sy'n sail iddynt, fynd
heb eu herio ac, yn anffodus, mewn rhai achosion, ffynnu.
"Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn annog dynion i
siarad a chodi llais - i'w gwneud yn glir na fyddan nhw'n goddef, esgusodi nac
aros yn dawel am drais dynion. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae
cannoedd o ddynion wedi gwneud hynny mewn ffordd gyhoeddus iawn yn ein digwyddiadau
Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau drwy ganol y ddinas, ond yn anffodus nid yw hyn
yn bosibl eleni.
"Ond mae 'siarad a chodi llais' bob amser yn
bosibl, ac mae’n bwysicach nag erioed oherwydd y cynnydd sylweddol mewn trais,
aflonyddu a cham-drin a brofir gan fenywod, ac a gyflawnir gan ddynion, yn
ystod pandemig y coronafeirws.
"Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar frys
i atal trais a cham-drin, gan sicrhau bod ein cymunedau a'n cartrefi yn ddiogel
i bawb. Ni ddylai unrhyw un fyw mewn ofn."
Mae rhaglen ddigwyddiadau ymgyrch y Rhuban Gwyn, gan gynnwys manylion sut i gymryd rhan, ar gael yma: https://www.cardiffandvalersb.co.uk/wp-content/uploads/White-Ribbon-Calendar-of-Events-2020-cym.pdf
I gael rhagor o wybodaeth am
Ymgyrch y Rhuban Gwyn, ewch i www.whiteribbon.org.uk
Ymunwch â'r sgwrs
#rhubangwyncaerdyddarfro
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn profi trais yn erbyn
menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol gallwch ofyn am help a chefnogaeth
gan y gwasanaeth Byw Heb Ofn.
@BywHebOfn #BywHebOfn Ffôn 0808 80 10 800 Neges
Destun 0786 007 7333
Ebost gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Sgwrsio yn fyw:
llyw.cymru/bywhebofn