20/11/20
Mae’r cynllun terfynol y cytunwyd
arno ar gyfer Heol Wellfield sy'n cynnwys system unffordd newydd, beicffordd
dros dro, gwell cyfleusterau i gerddwyr, yn ogystal â pharcio arhosiad byr,
wedi cael sêl bendith, gyda 74% o drigolion lleol a arolygwyd yn cefnogi'r
cynlluniau newydd.
Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ar ddechrau’r flwyddyn nesaf a bydd yn cymryd pedair wythnos i'w gwblhau. Bydd yr effaith ar fasnachwyr lleol yn fach iawn - gyda'r ffordd yn aros ar agor a mynediad i gerddwyr yn cael ei chynnal ar ddwy ochr y ffordd drwy gydol y gwaith.
Bydd y cynllun newydd yn gwneud Heol Wellfield yn system unffordd tua'r gogledd o Heol Albany wrth deithio i fyny tuag at Heol Pen-y-Lan. Bydd traffig tua'r de yn troi i'r chwith i Heol Pen-y-Lan wrth y gyffordd â Heol Wellfield, ac yn aros ar y ffordd hon tan y gyffordd â Heol Albany. Yna bydd bysiau'n troi i'r dde yn Heol Albany i barhau i ganol y ddinas.
Bydd beicffordd newydd dros dro yn cael ei gosod ar Heol Wellfield ac yn arwain at feicffordd arfaethedig newydd ar Heol Albany, a fydd yn cael ei hadeiladu fesul cam. I ddechrau, bydd beicffordd newydd Heol Albany yn cael ei gosod hyd at y gyffordd â Heol y Plwca a Phlas Mackintosh ac mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y llwybr ar hyd Heol Richmond i ganol y ddinas.
Ar ochr ddwyreiniol Heol Wellfield, mae parcio arhosiad byr wedi'i ailgyflwyno i gwsmeriaid ei ddefnyddio. Ar ochr arall y ffordd, bydd y palmant yn cael ei ymestyn i gynorthwyo ymbellhau cymdeithasol. Bydd croesfan newydd i gerddwyr hefyd yn cael ei gosod, yn ogystal â mannau parcio ychwanegol i Ddeiliaid Bathodyn Glas eu defnyddio a standiau newydd i feiciau.
Bydd y coed bedw mewn blychau yn cael eu hymgorffori yn nyluniad y cynllun, a bydd rhagor o blanhigion yn cael eu hychwanegu i wneud yr ardal yn werddach.
Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r cynllun terfynol yn taro cydbwysedd rhwng gwella'r gofod y tu allan i ymwelwyr a thrigolion, gan sicrhau bod gan fusnesau le yn yr awyr agored i fasnachu, wrth ailosod rhywfaint o barcio arhosiad byr ar Heol Wellfield y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio.
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda masnachwyr lleol a chynghorwyr lleol i gytuno ar y cynllun terfynol ac mae'r gymeradwyaeth gan drigolion lleol yn galonogol iawn i'w gweld. Mae hyn yn rhan o broject parhaus i wella ardaloedd siopa lleol ledled y ddinas, fel rhan o'n hymateb i'r pandemig parhaus."
Mae'r Cyngor yn parhau i ymgysylltu â busnesau lleol ar Heol Albany ynghylch y feicffordd arfaethedig newydd, a fydd yn cysylltu â beicffordd Heol Wellfield. Anfonwyd llythyr at bob busnes a phreswylydd lleol yn yr ardal, ynghyd â manylion cyswllt fel y gellir ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
.