Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
#CadwchGaerdyddYnDdiogel
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (9 Tachwedd - 15 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
17 Tachwedd
Achosion: 562
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 153.2 (Cymru: 165.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 4,287
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,168.4
Cyfran bositif: 13.1% (Cymru: 13.1% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 18.11.20
Ysgol Arbennig The Hollies
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Arbennig The Hollies. Mae 14 o ddisgyblion a 7 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Parc Ninian
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Parc Ninian. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Mae nifer o staff yn absennol o'r ysgol oherwydd materion sy'n ymwneud â COVID-19. Yn dilyn asesiad risg a gynhaliwyd a chefnogwyd gan Gorff Llywodraethu'r ysgol, bydd disgyblion Blwyddyn 8 yn cael eu haddysgu o bell am weddill yr wythnos hon. Nid yw hyn yn effeithio ar y disgyblion yn y ganolfan adnoddau anghenion arbennig.