Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: atyniadau'r llwybr iâ; yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; ceisiadau i ysgolion cynradd; a Llechi cyfrifiadurol am ddim.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Datganiad ar y Cyd ar gyfer Caerdydd ac Abertawe - Atyniadau'r Llwybr Iâ

Yn dilyn diweddariad cyngor iechyd cyhoeddus gan swyddfa Prif Swyddog Meddygol Cymru dros y penwythnos, penderfynwyd y bydd atyniadau'r llwybr iâ, a oedd i fod i agor yng nghanol dinasoedd Caerdydd ac Abertawe, yn aros ar gau i'r cyhoedd.

Mae'r ddau awdurdod lleol yn deall y bydd hyn yn siom i breswylwyr a hoffent ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi. Fodd bynnag, diogelwch pawb yn ystod y pandemig yw ein blaenoriaeth o hyd ac mae'n bwysig ein bod yn dilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Bydd unrhyw un sydd wedi archebu a thalu am slot ar y llwybr iâ yn cael ad-daliad llawn gan y trefnwyr. Nid oes angen i gwsmeriaid wneud unrhyw beth i gael yr ad-daliad, caiff ei weithredu yn awtomatig. Cofiwch y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i ymddangos yn eich cyfrif.

Mae'r elfennau bwyd a diod eisoes ar agor. Rhagwelir y bydd yr atyniadau Nadolig eraill yn agor yn y ddwy ddinas yn y dyddiau nesaf.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (8 Tachwedd - 14 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

16 Tachwedd

 

Achosion: 565

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 154.0 (Cymru: 165.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,279

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,166.2

Cyfran bositif: 13.2% (Cymru: 13.3% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 17.11.20

Ysgol Uwchradd Llanisien

Mae disgybl ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Llanisien wedi derbyn prawf COVID-19 positif. Mae 77 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod wedi iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert

Mae disgybl Blwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 24 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn nodi eu bod mewn cysylltiad agos â'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ceisiadau i Ysgolion Cynradd

Derbynnir ceisiadau am lleoedd mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2021 dydd Llun 16 Tachwedd 2020 ac mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i roi arweiniad i rieni sy'n gwneud cais am le.

Mae Tîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd wedi llunio 7 awgrym da i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylent wneud cais mewn pryd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Gall y broses ymgeisio am leoedd mewn ysgolion deimlo'n gymhleth ac mae'n bwysig bod gan deuluoedd ddealltwriaeth glir o'r ffordd orau o wneud cais am le. Drwy gwblhau eu cais yn gywir ac yn brydlon byddant yn cynyddu eu siawns o gael lle yn ysgol eu dewis.

"Yn gynharach eleni, lansiom ymgyrch dderbyn i ysgolion newydd i wneud y broses ymgeisio mor syml a thryloyw â phosibl. Mae arwyddion cynnar ar gyfer ceisiadau eilaidd yn dangos bod y canllawiau a gyflwynwyd drwy'r ymgyrch wedi helpu teuluoedd ledled Caerdydd a bod y nifer sy'n gwneud cais yn brydlon wedi cynyddu ers y llynedd.

Mae hynny'n gam cadarnhaol tuag at sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i osgoi bod dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25226.html

 

Llechi cyfrifiadurol am ddim i drigolion Caerdydd sydd ar incwm isel, heb ddyfeisiau na chysylltiad rhyngrwyd

Mae gwasanaeth Cynghori Cyngor Caerdydd bellach yn lansio Cynllun Rhoi Llechen Gyfrifiadurol am ddim gyda mynediad i'r rhyngrwyd i unigolion sydd heb ddyfais na chysylltiad rhyngrwyd gartref.

Bydd pob dyfais yn cael ei lwytho gydag amrywiaeth o apiau a llwybrau byr perthnasol i sicrhau y gallant wneud y gorau o bob dyfais. 

Mae amrywiaeth o weithgareddau digidol a gwasanaethau cymorth wrth law hefyd i'w harchwilio, gan gynnwys; Cyrsiau a Hyfforddiant Dysgu Oedolion Ar-lein, Clwb Swyddi Digidol gyda'r Gwasanaethau i Mewn i Waith a llu o weithgareddau Iechyd a Lles a gynhelir gan y gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd.

Dim ond i drigolion Caerdydd sy'n bodloni'r meini prawf isod y mae'r dyfeisiau hyn ar gael:

                  Y rhai heb fynediad i ddyfais ddigidol neu fand eang gartref A

                  Mae eu hiechyd a'u llesiant yn dioddef gan eu bod yn teimlo'n ynysig NEU

                  Maent am gael hyfforddiant neu am chwilio am waith ar-lein A

                  Maent yn derbyn budd-daliadau neu ar incwm isel

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25224.html