Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 16/11/20

 

13/11/20 - Rhaglen uchelgeisiol i godi tai ar y trywydd iawn gyda chynlluniau mawr i adfywio ystadau

Mae'r cynnig ailddatblygu ystadau mwyaf a mwyaf cyffrous yn rhaglen adeiladu tai newydd Cyngor Caerdydd ar fin cymryd cam mawr ymlaen, gyda chodi hyd at 400 o gartrefi newydd yn Grangetown. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25219.html 

 

13/11/20 - Cynlluniau'n symud ymlaen ar gyfer pont newydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48

Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd fydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48 yn uniongyrchol wrth gyffordd Pentwyn wedi symud cam ymlaen yn dilyn ceisiadau sector preifat i gyflawni'r cynllun. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25215.html 

 

13/11/20 - Dechrau ar wasanaeth Parcio a Theithio Sadwrn yn Unig o Neuadd y Sir Ddydd Sadwrn 14 Tach - Sadwrn 2 Ionawr 2021

Bysiau bob 15 munud o Heol Hemmingway i Stryd y Gamlas a dychwelyd o Stryd y Gamlas i Neuadd y Sir. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25212.html 

 

13/11/20 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd

Yn unol â'r ddeddfwriaeth, bydd Cyngor Caerdydd yn cymryd y camau cyntaf i gynnal adolygiad llawn o'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl). 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25213.html 

 

13/11/20 - Gallai dau adeilad pwysig ym Mae Caerdydd gael eu hadnewyddu a'u harbed

Gellid diogelu dyfodol dau adeilad treftadaeth pwysig ym Mae Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol os bydd cynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau perchnogaeth yn mynd rhagddynt. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25210.html 

 

13/11/20 - Gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £1000 yn Llys Ynadon Caerdydd

Gorchmynnwyd i Abdonoor Ali, 44, o Pentre Street yn Grangetown i dalu dros £1,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ar 5 Tachwedd am dipio anghyfreithlon ar dir yn agos i Barc Hamadryad yn Butetown y llynedd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25207.html 

 

12/11/20 - Ar y safle gyda cham nesaf rhaglen Cartrefi Caerdydd

Mae cam nesaf buddsoddiad £100 miliwn mewn tai fforddiadwy yng Nghaerdydd ar y gweill. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25200.html 

 

12/11/20 - Diweddariad COVID-19: 12 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25198.html 

 

12/11/20 - Cyn Gapel y CRI i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd a lles i drigolion lleol

Mae gwaith adnewyddu ar y gweill i drawsnewid yr hen Gapel yn y CRI yn gyfleuster iechyd a llesiant bywiog i'r trigolion yn ne a dwyrain Caerdydd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25185.html 

 

09/11/20 - Hyrwyddo'r mudiad 'Cyflog Byw' gyda baneri yng Nghastell Caerdydd

Mae'r mudiad Cyflog Byw unwaith eto'n cael ei ddathlu yng Nghaerdydd heddiw ar ddechrau'r Wythnos Cyflog Byw flynyddol (9-15 Tachwedd). 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25165.html 

 

09/11/20 - Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i oleuo'r wybren uwch Caerdydd ar Ddiwrnod y Cadoediad "Heb ei Debyg"

Ar gyfer 11 Tachwedd, Diwrnod y Cadoediad heb ei debyg, bydd CBRhG yn goleuo'r awyr uwch Caerdydd i goffáu'r 1.7 miliwn o feirwon rhyfel yn y Gymanwlad fel rhan o weithgareddau Coffa #ShineOn. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25161.html