Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 13 Tachwedd

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd; achosion a phrofion COVID-19;diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion;gallai dau adeilad pwysig ym Mae Caerdydd gael eu hadnewyddu a'u harbed; ar y safle gyda cham nesaf rhaglen Cartrefi Caerdydd; a cynlluniau'n symud ymlaen ar gyfer pont newydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd

Yn unol â'r ddeddfwriaeth, bydd Cyngor Caerdydd yn cymryd y camau cyntaf i gynnal adolygiad llawn o'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Mae hwn yn ofyniad statudol, gan fod pedair blynedd a mwy wedi mynd heibio ers i'r cynllun gael ei fabwysiadu, ac nawr mae'n rhaid cynnal adolygiad llawn.

Mae CDLl yn ymateb i'r materion a'r anghenion presennol a wynebwn drwy nodi strategaeth, cynigion a pholisïau ar sut y bydd y ddinas yn newid yn y dyfodol. Os nad oes gan y cyngor gynllun datblygu lleol, dim ond hyn a hyn o reolaeth dros y math a'r ardal ddaearyddol lle caiff datblygiadau newydd eu hadeiladu.

Mae'r cynllun presennol yn cyflawni ei nodau o ran rheoli twf yn llwyddiannus ac yn cynnig cyd-destun polisi i benderfynu ar tua 2,500 o geisiadau cynllunio'n effeithiol bob blwyddyn. 

Mae paratoi CDLl newydd yn rhoi cyfle i sicrhau bod y ddogfen bolisi bwysig hon yn gyfredol ac yn ymateb i ddeddfwriaeth a thystiolaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg ers i'r gwaith ddechrau ar y CDLl blaenorol. 

Bydd y CDLl presennol yn dal i fod ar waith nes bod y CDLl newydd wedi'i fabwysiadu, fydd yn cymryd tair blynedd a hanner i'w gyflawni ac sy'n cynnwys sawl cam ymgynghori ac ymgysylltu amrywiol gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25213.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (4 Tachwedd - 10 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

12 Tachwedd

 

Achosion: 564

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 153.7 (Cymru: 161.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,144

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,129.5

Cyfran bositif: 13.6% (Cymru: 13.8% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 12.11.20

Ysgol Uwchradd Willows

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 21 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Gynradd Parc Ninian

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Parc Ninian. Mae 27 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 3 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.   

Ysgol Arbennig The Hollies

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Arbennig the Hollies. Mae 5 o ddisgyblion a 3 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.   

Ysgol Gynradd Severn

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Severn. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 4 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Gallai dau adeilad pwysig ym Mae Caerdydd gael eu hadnewyddu a'u harbed

Gellid diogelu dyfodol dau adeilad treftadaeth pwysig ym Mae Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol os bydd cynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau perchnogaeth yn mynd rhagddynt.

Mae Adeiladau Cory / Merchant Place mewn sefyllfa amlwg ym Mae Caerdydd yn union gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru, ond mae'r ddau wedi bod yn wag ac wedi'u bordio ers dros ddegawd.

Mae'r Cyngor yn bwriadu prynu'r adeiladau rhestredig Gradd 2 a bydd yn ceisio cymorth grant i gefnogi costau adnewyddu ac adfywio.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae'r ddau adeilad pwysig yma wedi bod yn wag am ormod o amser o lawer erbyn hyn. Maent yn sefyll wrth y porth i ardal yr harbwr mewnol gyferbyn ag un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

"Mae nifer o bartneriaid datblygu posibl wedi cysylltu â'r Cyngor ac felly rydym yn hyderus y byddwn yn gallu adennill ein gwariant cychwynnol yn llawn wrth gaffael yr adeiladau.Ein bwriad yw i farchnata'r cyfle cyn gynted â phosibl i ddenu datblygwr i gyflymu'r gwaith o gwblhau'r prosiect."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25210.html

 

Ar y safle gyda cham nesaf rhaglen Cartrefi Caerdydd

Mae cam nesaf buddsoddiad £100 miliwn mewn tai fforddiadwy yng Nghaerdydd ar y gweill.

Mae gwaith wedi dechrau ar nifer o safleoedd newydd, a bydd rhagor yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn, yn rhan o bartneriaeth datblygu tai uchelgeisiol y Cyngor gyda Wates Residential, Cartrefi Caerdydd.

Bellach mae'r cynllun, a fydd yn darparu tua 1,700 o gartrefi newydd yn y ddinas, gan gynnwys mwy na 700 o gartrefi fforddiadwy, yn symud at y cam datblygu nesaf sy'n cynnwys dechrau gwaith ar safleoedd ym Mhen-y-lan, Tredelerch a'r Mynydd Bychan.

Mae datblygiad unigol mwyaf Cartrefi Caerdydd hyd yma ar y gweill ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch, sy'n cynnwys mwy na 200 o gartrefi carbon isel newydd gan gynnwys technolegau adnewyddadwy a systemau rheoli ynni. Bydd ar y safle 44 o fflatiau Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl hŷn, 21 o gartrefi'r Cyngor a 149 o gartrefi i'w gwerthu ar y farchnad agored.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ers tipyn ar safle Highfields yn y Mynydd Bychan er mwyn adeiladu 42 o gartrefi i'w rhentu gan y Cyngor neu i'w gwerthu trwy ei Gynllun Perchnogaeth Cartref â Chymorth, ac mae'r cynllun i fod i gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf.

Hefyd caiff pedwar deg tri o gartrefi newydd, gan gynnwys naw tŷ Cyngor, eu darparu ar hen safle Canolfan Howardian ym Mhen-y-lan. Dechreuodd gwaith galluogi yn gynharach y mis hwn ac mae'r prif waith i fod i ddechrau yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Yn dilyn cam cyntaf hynod lwyddiannus ein rhaglen Cartrefi Caerdydd, lle y darparwyd cartrefi newydd hyfryd ar gyfer tenantiaid y Cyngor a phrynwyr preifat ledled y ddinas, rydym yn edrych ymlaen at y camau nesaf yn y cynllun, gan greu hyd yn oed yn fwy o gartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel i bobl."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25200.html

 

Cynlluniau'n symud ymlaen ar gyfer pont newydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48

Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd fydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48 yn uniongyrchol wrth gyffordd Pentwyn wedi symud cam ymlaen yn dilyn ceisiadau sector preifat i gyflawni'r cynllun.

Cyflwynir adroddiad ar y cynigion - fydd yn ffurfio rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd - yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 19 Tachwedd, lle yr argymhellir bod y Cyngor yn cytuno i werthu tir er mwyn ariannu'r gwaith datblygu.

Byddai'r cynnig yn golygu adeiladu pont newydd a chyswllt ffordd dros Afon Rhymni gan gysylltu Llanrhymni â'r safle Parcio a Theithio a'r A48. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i drigolion lleol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn creu cyfleoedd swyddi yn y ddinas.

Bydd ymgynghoriad yn dechrau'n fuan ar gynlluniau sy'n cynnwys datblygu tir ar bwys Neuadd Llanrhymni, oddi ar Ball Road, sydd yn gae chwarae i Glwb Rygbi Llanrhymni ar hyn o bryd. Caiff swm sylweddol o'r ardal werdd o flaen Neuadd Llanrhymni ei chadw, ond cytunwyd i ail-leoli'r cae chwarae i dir oddi ar Mendip Road nad yw'n addas i gael ei ddatblygu.

Yn ogystal â chreu cae newydd i Glwb Rygbi Llanrhymni, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys creu cae glaswellt newydd i Glwb Pêl-droed Llanrhymni, caeau bach a chlwb newydd sbon ac ystafelloedd newydd i'r ddau dîm eu defnyddio.  Bydd clybiau lleol yn gallu defnyddio, ar gyfraddau cymunedol, ardal chwaraeon newydd o'r radd flaenaf sy'n cael ei chreu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar safle cyfredol caeau chwarae Prifysgol Caerdydd.

Hefyd, ar y tir sy'n cael ei werthu gan y Cyngor, bydd canolfan logisteg ar y safle ar bwys yr A48 fydd yn creu swyddi newydd yn yr ardal. Cedwir yr holl fannau parcio a theithio sydd ar gael ar hyn o bryd. Hefyd bydd 170 o gartrefi newydd ar y tir oddi ar Ball Road a Ball Lane, y bydd tua 80 ohonynt yn dai Cyngor newydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25215.html