Back
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd

 13/11/20

Yn unol â'r ddeddfwriaeth, bydd Cyngor Caerdydd yn cymryd y camau cyntaf i gynnal adolygiad llawn o'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Mae hwn yn ofyniad statudol, gan fod pedair blynedd a mwy wedi mynd heibio ers i'r cynllun gael ei fabwysiadu, ac nawr mae'n rhaid cynnal adolygiad llawn.

 

Mae CDLl yn ymateb i'r materion a'r anghenion presennol a wynebwn drwy nodi strategaeth, cynigion a pholisïau ar sut y bydd y ddinas yn newid yn y dyfodol. Os nad oes gan y cyngor gynllun datblygu lleol, dim ond hyn a hyn o reolaeth dros y math a'r ardal ddaearyddol lle caiff datblygiadau newydd eu hadeiladu.

 

Mae'r cynllun presennol yn cyflawni ei nodau o ran rheoli twf yn llwyddiannus ac yn cynnig cyd-destun polisi i benderfynu ar tua 2,500 o geisiadau cynllunio'n effeithiol bob blwyddyn.  

 

Mae paratoi CDLl newydd yn rhoi cyfle i sicrhau bod y ddogfen bolisi bwysig hon yn gyfredol ac yn ymateb i ddeddfwriaeth a thystiolaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg ers i'r gwaith ddechrau ar y CDLl blaenorol. 

 

Bydd y CDLl presennol yn dal i fod ar waith nes bod y CDLl newydd wedi'i fabwysiadu, fydd yn cymryd tair blynedd a hanner i'w gyflawni ac sy'n cynnwys sawl cam ymgynghori ac ymgysylltu amrywiol gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Er bod y Cynllun cyfredol yn gweithio'n dda ac yn dechrau cyflawni ar y gwaith o sicrhau tai a seilwaith mawr eu hangen, mae'n bwysig nad ydym yn llaesu dwylo ac yn anwybyddu ein dyletswydd statudol i adolygu'r ddogfen hanfodol hon.

 

"Mae'r CDLl yn cynnig dull a arweinir gan gynllun o ran datblygu'r ddinas, a thrwy'r cyfnod adolygu hwn mae gennym gyfle i sicrhau bod y CDLl diwygiedig yn dal i fod yn gyfredol ac yn cyflawni anghenion y ddinas i'r dyfodol.

 

"Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn ymateb i'r heriau newydd yr ydym yn eu hwynebu, megis taclo'r argyfwng hinsawdd, gwella lles cenedlaethau'r dyfodol ac ymateb i'r materion a godwyd gan y pandemig parhaus.

 

"Bydd nifer o gyfleoedd i breswylwyr a phartïon â diddordeb i ymgysylltu â'r broses, wrth i ni barhau i reoli twf y ddinas i'r dyfodol."