Back
Gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £1000 yn Llys Ynadon Caerdydd

13/11/20

Gorchmynnwyd i Abdonoor Ali, 44, o Pentre Street yn Grangetown i dalu dros £1,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ar 5 Tachwedd am dipio anghyfreithlon ar dir yn agos i Barc Hamadryad yn Butetown y llynedd.

Yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd, trosglwyddwyd lluniau a fideo ffôn symudol i dîm Gorfodi Gwastraff y Cyngor i ymchwilio i waredu dodrefn, cardfwrdd, cesys a bagiau gwyrdd a gafodd eu dympio pan oedd hi wedi tywyllu, yn hwyr y nos ar 24 Chwefror, 2019.

Yn dilyn ymchwiliad a ddilynodd, canfuwyd tystiolaeth yn y bagiau gwyrdd a olrheiniwyd yn ôl i gyfeiriad Mr Ali yn Grangetown.  Cyflawnodd Mr Ali y drosedd gan ddefnyddio cerbyd gwaith - lle roedd yn gweithio ar y pryd - wedi'i drwyddedu i Ravenstat Ltd, busnes ar Stryd James yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:  "Pan ddaethpwyd â Mr Ali i mewn i gyfweliad, derbyniodd mai ei fagiau gwyrdd ef oeddent, ond aeth ymlaen i ddweud wrth ein swyddogion bod ei fab wedi dadlwytho'r dodrefn ym Mharc Hamadryad, dim ond i'w storio yno nes y gellid ei roi yn garej ei dad yn ddiweddarach.

"Mae'r amddiffyniad a roddir yn yr achos hwn bron yn gomig, ond yn sicr does dim byd comig ynghylch y drosedd mae wedi'i chyflawni. Mae tipio anghyfreithlon yn gwbl ddiangen ac mae'n falltod ar y cymunedau yr ydym oll yn byw ynddynt. Ein neges i'r bobl sy'n parhau i dipio yn anghyfreithlon yw i stopio, neu byddwn yn eich dal a byddwn yn dod â chi gerbron y llysoedd."

Cafodd Abdonoor Ali ddirwy o £500, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £560 a gordal dioddefwr o £50.