Back
Ar y safle gyda cham nesaf rhaglen Cartrefi Caerdydd

12/11/20 

Mae cam nesaf buddsoddiad £100 miliwn mewn tai fforddiadwy yng Nghaerdydd ar y gweill.

 

Mae gwaith wedi dechrau ar nifer o safleoedd newydd, a bydd rhagor yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn, yn rhan o bartneriaeth datblygu tai uchelgeisiol y Cyngor gyda Wates Residential, Cartrefi Caerdydd

 

Bellach mae'r cynllun, a fydd yn darparu tua 1,700 o gartrefi newydd yn y ddinas, gan gynnwys mwy na 700 o gartrefi fforddiadwy, yn symud at y cam datblygu nesaf sy'n cynnwys dechrau gwaith ar safleoedd ym Mhen-y-lan, Tredelerch a'r Mynydd Bychan.

 

Mae datblygiad unigol mwyaf Cartrefi Caerdydd hyd yma ar y gweill ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch, sy'n cynnwys mwy na 200 o gartrefi carbon isel newydd gan gynnwys technolegau adnewyddadwy a systemau rheoli ynni. Bydd ar y safle 44 o fflatiau Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl hŷn, 21 o gartrefi'r Cyngor a 149 o gartrefi i'w gwerthu ar y farchnad agored.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo ers tipyn ar safle Highfields yn y Mynydd Bychan er mwyn adeiladu 42 o gartrefi i'w rhentu gan y Cyngor neu i'w gwerthu trwy ei Gynllun Perchnogaeth Cartref â Chymorth, ac mae'r cynllun i fod i gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf.

 

Hefyd caiff pedwar deg tri o gartrefi newydd, gan gynnwys naw tŷ Cyngor, eu darparu ar hen safle Canolfan Howardian ym Mhen-y-lan. Dechreuodd gwaith galluogi yn gynharach y mis hwn ac mae'r prif waith i fod i ddechrau yn ddiweddarach eleni.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Yn dilyn cam cyntaf hynod lwyddiannus ein rhaglen Cartrefi Caerdydd, lle y darparwyd cartrefi newydd hyfryd ar gyfer tenantiaid y Cyngor a phrynwyr preifat ledled y ddinas, rydym yn edrych ymlaen at y camau nesaf yn y cynllun, gan greu hyd yn oed yn fwy o gartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel i bobl.

 

"Rwyf wedi fy nghyffroi'n arbennig gan ddatblygiad hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain oddi ar Heol Casnewydd, nid yn unig oherwydd graddfa'r project, ond oherwydd safonau uchel y perfformiad ynni a fydd yn cael eu darparu ar draws pob deiliadaeth o dai yno.

 

"Hefyd bydd Addison House, y 44 fflat o'r radd flaenaf i bobl hŷn, yn un o'r rhai cyntaf o'n datblygiadau Byw yn y Gymuned, a fydd yn ceisio darparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n bodloni anghenion cyfnewidiol pobl wrth iddynt fynd yn hŷn."

 

Dywedodd Ed Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential: Rydym yn credu bob pawb yn haeddu lle gwych i fyw ynddo ac, ers 2016, rydym yn falch ein bod wedi darparu dros 430 o gartrefi newydd, cynaliadwy, o ansawdd uchel y mae mawr eu hangen i bobl leol ar draws y ddinas trwy ein partneriaeth benigamp Cartrefi Caerdydd gyda Chyngor Caerdydd.

 

"Rydym yn llawn cyffro ein bod wedi cychwyn ar raglen ddatblygu uchelgeisiol fel rhan o gamau 2 a 3 partneriaeth Cartrefi Caerdydd. Yn benodol, bydd datblygiad Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn golygu ein bod yn darparu rhai o gartrefi mwyaf cynaliadwy a chost-effeithiol Cymru i genedlaethau presennol a rhai'r dyfodol elwa arnynt."

 

Mae Cartrefi Caerdydd wedi darparu 171 o eiddo fforddiadwy hyd yma ac wedi gwerthu 172 ar y farchnad agored, mewn datblygiadau o ansawdd uchel yn nhermau creu lleoedd a dylunio trefol. Mae gwaith yn parhau ar safle Rhos yr Arian Cam 1 yn Llaneirwg, sydd i fod i gael ei gwblhau ar ddechrau 2021, ac mae 39 o unedau fforddiadwy yn Briardene yn Gabalfa i fod i gael eu trosglwyddo i'r Cyngor y Gwanwyn nesaf.

 

Ar y safle Cam 1 olaf i ddechrau yn Llandudno Road yn Nhredelerch, bydd y rhaglen yn darparu 16 o gartrefi Cyngor tair ystafell wely, y bydd dau ohonynt ar werth trwy'r cynllun Perchnogaeth Cartref â Chymorth.

 

Yn y cyfamser, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 23 arall o gartrefi Cartrefi Caerdydd yn ddiweddar ar gyfer Brookfield Drive yn Trowbridge.