Back
Diweddariad COVID-19: 12 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (3 Tachwedd - 9 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

11 Tachwedd

 

Achosion: 663

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 180.7 (Cymru: 175.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,516

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,230.8

Cyfran bositif: 14.7% (Cymru: 14.1% cyfran bositif)

 

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 12.11.20

Ysgol Uwchradd Caerdydd

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 240 o ddisgyblion o Flwyddyn 10 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid oes angen i aelodau staff hunanynysu oherwydd y mesurau ymbellhau cymdeithasol sydd ar waith yn yr ysgol.

Ysgol Gynradd Moorland

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Moorland. Mae 22 o ddisgyblion o Flwyddyn 6 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.