10/11/20
iweddaraf gan Gyngor Caerdydd sy'n trafod; Gorchuddion Wyneb yn cael eu dosbarthu i ysgolion at ddechrau'r tymor newydd;data'r 7 diwrnod diwethaf o ran achosion a phrofion COVID; diweddariad ar ysgolion a effeithir gan COVID-19 a'r cynlluniau i dalu teyrnged i'r rhai a fu farw o'r Gymanwlad ar Ddiwrnod y Cadoediad.
#ArhoswchGartref #AchubBywydau.
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Gorchuddion wyneb yn cael eu dosbarthu I ysgollon uwchradd ar gyfer dechrau tymor newydd
Mae 45,000 o orchuddion wyneb ychwanegol yn cael eu rhoi i ysgolion uwchradd yr wythnos hon i helpu disgyblion i gadw eu hunain a'u cymuned ysgol yn ddiogel pan fyddant yn dychwelyd am weddill tymor yr Hydref.
Mae hyn yn ychwanegol at y 45,000 o orchuddion wyneb a roddodd y Cyngor i ysgolion uwchradd ddechrau mis Medi ac mae'n golygu y gall disgyblion ddisodli unrhyw orchuddion wyneb a gollwyd neu a ddifrodwyd gyda rhai newydd.
Mae'r Cyngor yn argymell yn gryf bod holl ddisgyblion ysgolion uwchradd yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cymunedol lle na ellir cadw pellter cymdeithasol.
Cydlynwyd y gwaith o ddidoli a darparu'r masgiau gan y Tîm Storfeydd Canolog yn Dominions Way, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy'r pandemig i gefnogi gwasanaethau rheng flaen hanfodol ac sydd wedi darparu miliynau o eitemau Cyfarpar Diogelu Personol dros y misoedd diwethaf.
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am ddychwelyd i'r ysgol yma:www.cardiff.gov.uk/dychwelydirysgol
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar: 9 Tachwedd
Achosion: 775
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 211.2
Achosion profi: 4,697
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,280.2
Cyfran bositif: 16.5%
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgollon: 10 Tachwedd 2020
Ysgol Gynradd Parc y Rhath
Cafwyd un prawf positif yn nosbarth derbyn Ysgol Gynradd Parc y Rhath. Mae 58 o ddisgyblion a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod.
Ysgol Gynradd Creigiau
Mae un achos positif wedi bod ym Mlwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae 28 o ddisgyblion a 2 aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod.
Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad I oleuo'r wybren uwch Caerdydd ar Ddiwrnod y Cadoediad "heb ei Debyg"
Ar gyfer 11 Tachwedd, Diwrnod y Cadoediad heb ei debyg, bydd CBRhG yn goleuo'r awyr uwch Caerdydd i goffáu'r 1.7 miliwn o feirwon rhyfel yn y Gymanwlad fel rhan o weithgareddau Coffa #ShineOn.
#ShineOn yw digwyddiad Coffa cynhwysol, hygyrch a digidol CBRhG sydd am ddim ac yn agored i bawb.
Drwy brofiad rhithiol ar wefan CBRhG, gan ddefnyddio cofnodion helaeth y Comisiwn a'i gyfleuster chwilio, gall y cyhoedd enwi sêr ar ôl un o'r 1.7 miliwn o'r Gymanwlad a fu farw ac sydd dan ofal CBRhG. Yna mae CBRhG yn annog pawb i oedi am ennyd am 7pm 11 Tachwedd 2020 i gamu tu allan i'w cartrefi, edrych ar y sêr a chofio'r rhai a fu farw.
Mewn rhai lleoliadau allweddol, gan gynnwys llain beddau rhyfel CBRhG ym Mynwent Cathays Caerdydd, bydd goleuadau'n lliwio awyr y nos ar noson y Cadoediad o fynwentydd a chofebion CBRhG, nid i annog torfeydd, ond i ddangos, hyd yn oed yn ystod y cyfnod tywyll hwn, na chaiff golau'r cofio fyth ei ddiffodd.
Bydd y goleuadau i'w gweld am filltiroedd ac anogir y rhai sy'n byw'n lleol i edrych i'r awyr am 7pm a gwylio o ddiogelwch eu cartref. Nid denu torfeydd yw'r nod gyda'r goleuo hwn.
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25161.html