Back
Lansio ymgyrch cofrestru i bleidleisio


 

6/11/20
Mae ymgyrch hysbysebu newydd wedi'i lansio i annog pobl ifanc a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghaerdydd i gofrestru i bleidleisio.

 

Mae newidiadau i'r gyfraith yng Nghymru yn golygu y gall pobl ifanc o 14 oed gofrestru i bleidleisio nawr ac, am y tro cyntaf, bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau nesaf y Senedd, a gaiff eu cynnal fis Mai nesaf.

 

Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 hefyd yn ymestyn yr etholfraint i alluogi dinasyddion tramor cymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd hefyd.


Mae'r Cyngor wedi lansio ymgyrch ddigidol i godi ymwybyddiaeth o'r etholfraint newydd ymhlith trigolion cymwys yn y ddinas ac i'w hannog i sicrhau y gallant ddweud eu dweud yn etholiadau'r Senedd drwy gofrestru i bleidleisio ynwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

 

Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar hysbysebu drwy'r cyfryngau cymdeithasol ar draws amrywiaeth o sianeli gan gynnwys Facebook, Twitter, YouTube a Snapchat, tra bod posteri sy'n hyrwyddo'r etholfraint newydd yn cael eu gosod mewn llochesi bws ar draws y ddinas.

 

Dywedodd Paul Orders, swyddog cofrestru etholiadol Caerdydd: "Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn rhoi cyfle i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn y ddinas ddweud eu dweud a dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu dyfodol. Mae'n bwysig bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn deall bod eu llais yn cyfrif a bod eu pleidlais yn bwysig.

 

"Nod ein hymgyrch yw annog pobl i gofrestru ar gyfer eu pleidlais, a chofrestru'n gynnar. Ym mhob etholiad, rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn colli'r cyfle i fwrw eu pleidlais am nad ydynt wedi cofrestru mewn pryd ac rydym am osgoi hynny drwy roi gwybod i bobl pa mor bwysig yw cofrestru. Peidiwch â cholli eich pleidlais - cofrestrwch nawr."

 

Yn ogystal ag annog pobl ifanc a gwladolion tramor cymwys i gofrestru, mae'r Cyngor yn awyddus i atgoffa'r etholaeth ehangach o bwysigrwydd cofrestru i bleidleisio. 

 

Bob blwyddyn, mae pleidleiswyr cymwys yn cael eu canfasio yn y ddinas i sicrhau bod manylion cofrestru etholiadol yr aelwyd yn gyfredol. Fel arfer, yr adeg hon o'r flwyddyn, mae canfaswyr yn ymweld ag eiddo nad ydynt eto wedi dychwelyd eu ffurflen ganfasio i wirio gwybodaeth yn bersonol am bleidleiswyr cymwys gyda thrigolion.

 

Fodd bynnag, yng ngoleuni mesurau'r pandemig COVID-19 presennol, mae'r Cyngor wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r gweithgareddau ymgysylltu wyneb-yn-wyneb hyn. Mae gwaith helaeth yn parhau i ddiweddaru'r gofrestr etholiadol, gan gynnwys ffurflenni canfasio yn cael eu hail-anfon i tua 20,000 o aelwydydd sydd eto i ymateb yn gofyn am y wybodaeth berthnasol, gyfoes. Mae'r Cyngor yn gofyn i breswylwyr sy'n derbyn y llythyrau hyn gymryd y camau y gofynnwyd amdanynt i sicrhau bod eu cartref wedi'i gofrestru.

 

Bydd tîm gwasanaethau etholiadol y ddinas hefyd yn cysylltu ag aelwydydd y mae gennym rifau ffôn ar eu cyfer i wirio eu gwybodaeth.

 

Gall preswylwyr hefyd gofrestru ar-lein drwy ymweld âwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae cofrestru'n cymryd tua phum munud a bydd angen rhif Yswiriant Gwladol ar breswylwyr.

 

Ar adeg pan fo mwy o bobl yn aros gartref, mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer pleidlais bost ar gyfer yr etholiad nesaf. Gellir lawrlwytho ffurflenni cais pleidlais bost o wefan y Comisiwn Etholiadol ymahttp://www.electoralcommission.org.uk/i-am-a/voter/voting-person-post-or-proxy/voting-postneu maent ar gael ar gais drwy e-bostiogwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk