Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
Arhoswch gartref i achub bywydau.
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
4 Tachwedd
Achosion: 1,049
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 285.9 (Cymru: 260.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,296
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,443.4
Cyfran bositif: 19.8% (Cymru: 19.1% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Y diweddaraf am ysgolion yr effeithir arnynt gan COVID-19: 5.11.20
Ysgol Gynradd Crist y Brenin
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Crist y Brenin. Mae 29 o ddisgyblion o'r Dosbarth Derbyn a 5 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig. Mae 57 o ddisgyblion Blwyddyn 2, 55 o ddisgyblion Blwyddyn 6 ac 11 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf. Mae 32 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.