Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
Arhoswch gartref i achub bywydau.
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
3 Tachwedd
Achosion: 1,105
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 301.2 (Cymru: 266.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,455
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,486.8
Cyfran bositif: 20.3% (Cymru: 19.3% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Y diweddaraf am ysgolion yr effeithir arnynt gan COVID-19: 4.11.20
Ysgol Tŷ Gwyn
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn. Mae 8 disgybl a 4 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.