Back
Gofyn am farn ar gynllun adfywio cyffrous

3/11/20

Mae’r Cyngor yn gofyn i bobl Grangetown rannu eu barn ar ailddatblygiad arfaethedig ystâd Trem y Môr.

 

Yn dilyn ymgysylltiad helaeth â thrigolion ar yr ystâd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ymgynghoriad cymunedol ehangach yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yn gwahodd trigolion sy’n byw gerllaw, pobl sy'n gweithio yn y ward, busnesau a sefydliadau lleol i wneud sylwadau ar gynlluniau i adfywio'r rhan hon o Grangetown i ddarparu tai newydd i breswylwyr presennol a newydd.

 

Bydd ailddatblygu'r ystâd yn creu cyfuniad o dai ac eiddo fforddiadwy o ansawdd uchel ac eiddo i'w gwerthu ar y farchnad agored, yn ogystal â gwell cysylltedd i bobl sy'n byw yn yr ardal â thrafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau lleol, mannau cyhoeddus a rhannau eraill o'r ddinas. Mae'r cynigion adfywio yn cyfrannu at darged y Cyngor o ddarparu 2,000 o gartrefi cyngor newydd y mae mawr eu hangen ar gyfer y ddinas.

 

 

Cynhyrchwyd uwchgynllun yn dangos sut y gellid ailddatblygu'r ystâd yn ogystal â'r manylion ar gyfer cam cyntaf yr ailddatblygiad sy'n canolbwyntio ar amnewid y bloc twr uchel presennol.

 

Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed gan drigolion yr ystâd eto yn ogystal â phobl o'r gymuned ehangach am y cynlluniau a fyddai'n creu tua 400 o gartrefi newydd, gan gynnwys llety i bobl hŷn, ac ardal gyhoeddus fwy dymunol.  Oherwydd effaith y pandemig cenedlaethol ni all y cyngor gynnal digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd wyneb yn wyneb ac felly mae proses ymgynghori ar-lein ar y gweill trwy gydol mis Tachwedd.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Trem y Môr yn gymuned gref a bywiog o fewn Grangetown ond mae nifer o broblemau o ran cyflwr yr ystâd bresennol felly rydyn ni’n awyddus i fwrw ymlaen gyda’r adfywiad cyffrous hwn er budd yr ardal gyfan.

 

"Bydd ein cynigion yn creu amgylchedd lleol mwy deniadol i bawb, gyda phensaernïaeth drawiadol a phwyslais cryf ar greu lleoedd ac ymgorffori seilwaith arloesol, gwyrdd. 

 

"Gan ddefnyddio dulliau adeiladu cwbl gyfoes, bydd y cynlluniau hyn yn creu eiddo fforddiadwy o ansawdd uchel gyda safonau ynni uchel i helpu i fynd i'r afael â'r galw sylweddol am dai yn y ddinas. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnwys pobl leol drwy gydol proses ddylunio a datblygu'r cynllun cyffrous hwn ac rydyn ni am annog trigolion, busnesau ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn i rannu eu barn gyda ni."

 

Gall pobl ddarganfod mwy a dweud eu dweud ar y cynigion drwy ymweld â

www.cardiffnr.co.uk/TremYMor

 

Mae arolwg ar-lein hefyd ar gael yn  https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159645982140

 

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan dd