Yn sgil y pandemig, mae presenoldeb wedi gostwng gan tua 50%, canslwyd 20% o aelodaeth debyd uniongyrchol a gostyngodd gwerthiant aelodaeth newydd gan 23% yn ôl yr adroddiad, ac mae hyn wedi cael “effaith sylweddol ar berfformiad ariannol y contract.”
Yn amodol ar gael ei gytuno mewn cyfarfod y Cabinet ar 19 Tachwedd, bydd y Cyngor yn cydweithio â GLL i gynnal adolygiad o'r holl gyfleusterau a gweithrediadau.
Nod yr adolygiad fydd mynd i'r afael â chynaliadwyedd hirdymor y contract a sicrhau parhad yn y gwasanaethau a ddarperir drwy nodi amrywiadau posibl i'r contract 15 mlynedd, a ddechreuodd yn 2016.
Ers dechrau'r pandemig, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio ar sail 'llyfr agored' gyda GLL ac mae wedi darparu £1 miliwn o gyllid rhyddhad cyflenwyr i helpu i gadw swyddi staff. Gallai fod angen £1.1 miliwn arall i dalu am y colledion sy'n weddill erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol a bydd y Cyngor yn parhau i geisio cymorth gan Lywodraeth Cymru i gadw'r busnes yn sefydlog yn ystod uchafbwynt y pandemig.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Cyn y pandemig, roedd y contract gyda GLL wedi darparu gwerth £14 miliwn o effaith gymdeithasol. Roedd wedi caniatáu i'r Cyngor ddileu ei gymhorthdal blynyddol o £3.5 miliwn ar gyfer hamdden, ac ynghyd â chadw pob un o'r wyth cyfleuster ar agor, sicrhaodd hefyd y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i ddarparu cyfleusterau gwell i breswylwyr – fel adnewyddu’r ganolfan hamdden yn y Tyllgoed.
"Un o'n nodau yw cynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol ac roedd y contract gyda GLL yn helpu i gyflawni hynny. Cynyddodd presenoldeb gan 35,000 ar y flwyddyn flaenorol, ond mae Covid-19 wedi newid y gêm yn llwyr.
"Yn y pen draw, mae'r adolygiad hwn yn ymwneud â gwneud yr hyn a allwn i sicrhau, yn wyneb pwysau digynsail, nid yn unig ar GLL, ond ar draws y diwydiant hamdden, bod preswylwyr yn dal i allu manteisio ar y gwasanaethau hamdden o ansawdd uchel y maent yn eu haeddu pan ddaw’r pandemig i ben.
"Hyd at y pwynt hwn rydym wedi gallu gweithio gyda GLL i sicrhau nad oes unrhyw swyddi wedi'u colli. Nawr mae angen i ni nodi ble mae'r heriau mwyaf, ystyried unrhyw gyfleoedd ar gyfer arloesi a moderneiddio, fel y gallwn ddenu buddsoddiad, parhau i gynyddu cyfranogiad a sicrhau dyfodol hirdymor y gwasanaeth."
Y cyfleusterau a weithredir gan GLL ac a gwmpesir gan yr adolygiad yw:
Ychwanegodd Rhys Jones, Pennaeth Gwasanaeth Better Caerdydd: "Rydym yn
ddiolchgar am y trafodaethau cadarnhaol parhaus gyda Chyngor Caerdydd ac rydym
wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffordd o ddarparu gwasanaethau hamdden o safon i'r
cymunedau yng Nghaerdydd drwy gydol yr argyfwng ac yn y dyfodol. Mae'r pandemig
wedi bod yn ddinistriol i'r diwydiant. Mae cau'r holl gyfleusterau hamdden
ledled Cymru am dros bum mis yn ystod y cyfnod cloi, ynghyd â'r gofyniad i
weithredu ar gapasiti llai er mwyn cydymffurfio â’r rheolau ymbellhau
cymdeithasol, wedi arwain at golli refeniw sylweddol i ni, sy'n amhosibl ei
adennill. Edrychwn ymlaen at groesawu cwsmeriaid yn ôl eto yr wythnos nesaf ar
ôl cau am bythefnos ar gyfer y cyfnod cloi diweddaraf yng Nghymru."