Back
Diweddariad COVID-19: 2 Tachwedd

Dyma ddiweddariad gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: map a thabl sy'n dangos nifer yr achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnod diwethaf; a'r ysgolion diweddaraf yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19.

Arhoswch gartref i achub bywydau.

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

1 Tachwedd

Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng Nghaerdydd, a thri ym Mro Morgannwg.

Rydym yn defnyddio'r clystyrau hyn oherwydd eu bod yn adlewyrchu orau'r meysydd lle mae pobl fwyaf tebygol o fod yn byw, gweithio a siopa.  Mae hyn yn golygu y gallwch gael y syniad gorau o'r gyfradd bresennol o heintiau COVID-19 newydd yn eich ardal.

 

Achosion: 1,137

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 309.9 (Cymru: 258.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,408

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,474.0

Cyfran bositif: 21.0% (Cymru: 19.7% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 02.11.20

Ysgol Gynradd y Tyllgoed

Mae profion positif wedi eu cadarnhau ar ddau aelod o staff yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed. Mae saith aelod arall o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.Yn sgil nifer y staff sydd yn gorfod hunanynysu, mae ysgol Gynradd y Tyllgoed wedi cau ar hyn o bryd,a bydd yn ail-agor Ddydd Iau 5 Tachwedd.

Ysgol Gynradd Stacey 

Cadarnhawyd bod un aelod o staff Ysgol Gynradd Parc Stacey wedi profi'n bositif. Mae  un aelod arall o staff a 30 disgybl wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul

Cadarnhawyd bod un aelod o staff Ysgol Gynradd Sant Paul wedi profi'n bositif. Mae 30 o ddisgyblion eraill wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd Yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf 

Mae profion positif wedi eu cadarnhau ar bedwar disgybl yn Ysgol Uwchrad dyr Rglwys yng Nghymru Esgob Llandaf.  Mae 167 o ddisgyblion eraill wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.