Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 30 Hydref

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: Gwasanaeth y Cofio eleni, a gynhelir yng Nghaerdydd, ar gael i'w wylio'n fyw ar-lein; achosion a phrofion COVID-19; diweddariad ar ysgolion sydd wedi eu heffeithio gan COVID-19; dau gynllun i helpu pobl i hunanynysu i gael eu cyflwyno; a phecyn arall o gymorth digidol i blant Ysgol Caerdydd.

#CadwchYnDdiogel #ArhoswchAdref

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Gwylio Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru yn fyw ar-lein

Mae trefniadau wedi'u gwneud eleni a fydd yn caniatáu i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yng Ngwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru, yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Am y tro cyntaf, bydd y gwasanaeth ar gael i'w wylio'n fyw ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd. Bydd y darllediadau'n dechrau o 10.50am ddydd Sul, 8 Tachwedd, ar gael yn:

www.youtube.com/cardiffcouncil

Bydd y darllediadau o'r Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dangos gwasanaeth bach o bellter cymdeithasol, a gynhelir gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk.

Oherwydd Rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru sy'n gosod cyfyngiadau ar gynulliadau cyhoeddus awyr agored (http://orlo.uk/g7V6f), ni fydd modd cael mynediad cyffredinol i'r Gofeb Ryfel Genedlaethol a Gerddi Alexandra o'i hamgylch fore Sul, 8 Tachwedd.

Gall gwylwyr y darllediad byw lawrlwytho a dilyn y drefn gwasanaeth a ddefnyddir ar y diwrnod o wefan Cyngor Caerdydd yma:
http://orlo.uk/szf6A
 

At ei gilydd, bydd 15 o bobl yn gosod torchau yng ngwasanaeth Sul y Cofio cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Maent yn cynnwys Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw EM dros Dde Morgannwg, ar ran Ei Mawrhydi Y Frenhines; Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru; Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd; a'r Cynghorydd Dan De'Ath,

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd Bydd chwythwr corn o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol yn canu'r 'Caniad Olaf' ac yna cynhelir dau funud o dawelwch am 11am.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru, a gynhelir bob blwyddyn ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd, yn gyfle pwysig i bob un ohonom fyfyrio, a thalu teyrnged i'r milwyr sydd wedi gwasanaethu, ymladd a marw dros ein gwlad. Fel arfer, mae Gerddi Alexandra yn llawn o bobl sy'n dymuno cymryd rhan yn y gwasanaeth, ac er na fyddant yn gallu bod gyda ni'n bersonol eleni, yr wyf yn siŵr y byddant yn dal i deimlo'n rhan o Sul y Cofio, wrth iddynt wylio'r gwasanaeth o ddiogelwch eu cartrefi eu hunain."

Darllenwch fwy yma:

http://orlo.uk/V5oEQ

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

29 Hydref

 

Achosion: 1,217

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 331.7 (Cymru: 245.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,928

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,615.7

Cyfran bositif: 20.5% (Cymru: 17.9% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

 

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar Ysgolion a effeithiwyd gan COVID-19: 30 Hydref 2020

Ysgol Bro Eirwg

Mae achos positif wedi ei gadarnhau ar ddisgybl yn y Dosbarth Derbyn yn Ysgol Bro Eirwg. Mae 57 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cyswllt agos â'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant

Mae naw disgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant wedi derbyn prawf COVID-19 positif. Mae chwe disgybl arall wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod wedi iddynt gael eu nodi fel cyswllt agos â'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae un disgybl ym Mlwyddyn 13 Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cael prawf positif. Mae 13 o ddisgyblion eraill wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cyswllt agos â'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Cyflwyno dau gynllun yng Nghymru i helpu pobl i hunanynysu

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog am Daliadau Hunan-ynysu rydym wrthi'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gwblhau manylion y cynllun.

Byddwn yn diweddaru ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol a'r partneriaid rydym yn gweithio gyda nhw cyn gynted ag y bydd y cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau.

Bydd modd i bobl sydd ar incwm isel wneud cais am daliad o £500 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gofyn iddynt hunanynysu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif.

Yn ogystal, mae taliad ychwanegol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, i gynyddu tâl salwch statudol i'w cyflog arferol os oes rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd bod ganddynt coronafeirws neu oherwydd eu bod yn hunanynysu.

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyd at £32m ar gael ar gyfer y ddau gynllun i gefnogi pobl ac i ddileu'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu'r rhai sy'n gorfod hunanynysu.

Darllenwch fwy yma:

https://llyw.cymru/cyflwyno-dau-gynllun-yng-nghymru-i-helpu-pobl-i-hunanynysu

 

Cymorth digidol ychwanegol i blant ysgol Caerdydd

Cyn diwedd tymor yr Hydref bydd pob ysgol brif ffrwd yng Nghaerdydd yn cael swp o ddyfeisiau Chromebook newydd sy'n cyfateb i grŵp blwyddyn lawn o ddisgyblion yn eu hysgol.  Bydd cyfanswm o 10,000 o ddyfeisiau newydd yn cael eu dosbarthu i ysgolion ledled y ddinas.  Bydd hyn yn helpu ysgolion i ddarparu dysgu ar-lein a dysgu cyfunol, tra y gallai absenoldeb effeithio ar blant oherwydd COVID-19.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd 4,800 Chromebook yn cael eu cyflwyno i ysgolion gyda'r gweddill i'w cyflwyno tua diwedd mis Tachwedd.

Mae hyn yn ychwanegol i'r 6,500 o ddyfeisiau digidol a 2,000 o ddyfeisiau band eang 4G sydd eisoes wedi'u darparu i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd y nodwyd eu bod yn ddifreintiedig yn ddigidol a 3,000 o ddyfeisiau digidol a ddarparwyd i staff addysgu, ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae absenoldeb o'r ysgol oherwydd COVID-19 yn golygu y bydd angen i ddisgyblion dderbyn eu haddysg drwy ddull dysgu cyfunol sy'n cyfuno deunyddiau addysgol ar-lein â dulliau traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth.  Felly, mae'n hanfodol bod darpariaeth ddigidol dda ar gael i ddisgyblion a'n gweithlu.