Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
Arhoswch gartref i achub bywydau.
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
28 Hydref
Achosion: 1,214
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 330.9 (Cymru: 233.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,983
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,630.7
Cyfran bositif: 20.3% (Cymru: 16.7% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Y diweddaraf am ysgolion yr effeithir arnynt gan COVID-19: 29.10.20
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant Mae 54 o ddisgyblion Blwyddyn 8 a 1 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.